Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 03/04/2019 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Gareth Bennett AC.

(09.30-10.20)

2.

Rhandiroedd: sesiwn dystiolaeth

Dr Hannah Pitt, Sêr Cymru II Cymrawd Ymchwil - Sefydliad Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy, Prifysgol Caerdydd
Dr Poppy Nicol, Global Gardens Project

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Hannah Pitt a Dr Poppy Nicol.

(10.30-11.20)

3.

Rhandiroedd: sesiwn dystiolaeth gyda chynrychiolwyr tyfwyr cymunedol

Gary Mitchell, Cyd-reolwr Cymru - Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol
Nicola Perkins, Cyd-reolwr Cymru - Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol

Lynne Lewis, Pwyllgor Cymdeithas Rhandiroedd Gogledd Llandaf

Stephen Taylor, Cynrychiolydd Safle – Pwyllgor Cymdeithas Rhandiroedd Gogledd Llandaf

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gary Mitchell, Nicola Perkins, Lynne Lewis a Stephen Taylor.

3.2 Cytunodd Gary Mitchell i ddarparu rhagor o wybodaeth am fodelau ar gyfer caffael tir ar gyfer tyfu ar randiroedd a thyfu cymunedol.

 

(11.20)

4.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

4. Nododd y Pwyllgor y papurau o dan eitem 4.

4.1

Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch y cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

4.2

Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn dilyn y sesiwn graffu flynyddol ar 10 Ionawr

Dogfennau ategol:

4.3

Gohebiaeth gan Brif Weinidog Cymru at y Cadeirydd ynghylch craffu ar femoranda cydsyniad deddfwriaethol

Dogfennau ategol:

4.4

Gohebiaeth gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau at y Cadeirydd ynghylch ei waith craffu ar gynllun cyllidebau carbon cyntaf Llywodraeth Cymru – Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel

Dogfennau ategol:

4.5

Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol i Fil Amaethyddiaeth y DU

Dogfennau ategol:

4.6

Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at y Cadeirydd ynghylch adroddiad y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â Bil Pysgodfeydd y DU

Dogfennau ategol:

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod heddiw ar gyfer eitemau 6 a 7

Cofnodion:

5.1 Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o eitemau 6, 7 ac 8 o gyfarfod heddiw.

(11.20-11.30)

6.

Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Awdurdodau Afonydd a Draenio Tir

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a bydd yn cyflwyno adroddiad maes o law.

(11.30-11.45)

7.

Dull ar gyfer trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer Bil Amaethyddiaeth y DU

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull ar gyfer y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer Bil Amaethyddiaeth y DU a chytunodd ar y dull hwnnw.

(11.45-12.00)

8.

Trafod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â Bil Pysgodfeydd y DU

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i’w adroddiad a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch nifer o faterion.