Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Jon Antoniazzi 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 798KB) Gweld fel HTML (356KB)

 

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Mohammad Asghar AC; dirprwyodd Angela Burns AC ar ei ran.

 

(09.30 - 10.30)

2.

Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 16

Denise Inger, Prif Weithredwr – SNAP Cymru

Cath Lewis, Swyddog Datblygu - Plant yng Nghymru

Debbie Thomas, Swyddog Polisi ac Ymgyrchoedd - Y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar

Dr Stephen Beyer, Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr TSANA.

 

(10.30)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem nesaf.

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.30 - 10.50)

4.

Ymgynghoriad y 1,000 Diwrnod Cyntaf - cytuno ar ddull

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dull. Cytunwyd ar gynnal ymchwiliad byr i Iechyd Meddwl Amenedigol. 

 

(11.00 - 12.30)

5.

Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 17

 

Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Emma Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cymorth i Ddysgwyr

Tania Nicholson, Pennaeth Rhaglen Ddeddfwriaethol Anghenion Dysgu Ychwanegol

Mair Roberts, Cyfreithiwr

Catherine Lloyd, Cyfreithiwr

 

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Addysg a Dysgu Gydol Oes. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog gyda chwestiynau ychwanegol.

 

(12.30)

6.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

Nodwyd y papurau.

 

6.1

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - rhagor o wybodaeth yn dilyn y sesiwn gydag Estyn ar 15 Chwefror

Dogfennau ategol:

6.2

Gwybodaeth ychwanegol gan Estyn yn dilyn y cyfarfod ar 15 Chwefror

Dogfennau ategol: