Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/03/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Hefin David AC a Suzy Davies AC; ni chafwyd dirprwyon ar eu rhan.

1.2        O dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Lynne Neagle AC ei bod yn Gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar atal hunanladdiad a bod y Samariaid yn darparu cymorth ysgrifenyddiaeth iddo.

 

(09.30 - 10.20)

2.

Addysg Heblaw yn yr Ysgol - sesiwn dystiolaeth 5

 

Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 

 

Sharon Davies, Pennaeth Dysgu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ac yn cynrychioli Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru

Nick Williams, Cyfarwyddwr Addysg, Cyngor Dinas a Sir Abertawe ac yn cynrychioli Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru

David Hopkins, Pennaeth Addysg Dros Dro - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.

2.2 Oherwydd cyfyngiadau amser, cytunwyd y byddai'r cwestiynau nas gofynnwyd yn cael eu hanfon am ymateb ysgrifenedig.

 

(10.30 - 11.20)

3.

Addysg Heblaw yn yr Ysgol - sesiwn dystiolaeth 6


Y Samariaid a Mind Cymru

 

Sarah Stone, Cyfarwyddwr Gweithredol Cymru, y Samariaid

Liz Williams, Swyddog Polisi a Chyfathrebu, y Samariaid

Dr Ian Johnson, Rheolwr, Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc - Mind Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Samariaid a Mind Cymru.

 

(11.20)

4.

Papur i'w nodi

Cofnodion:

4.1 Nodwyd y papur.

 

4.1

Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar ein gwaith craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21

Dogfennau ategol:

(11.20)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.20 - 11.30)

6.

Addysg Heblaw yn yr Ysgol – trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiynau tystiolaeth.