Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/01/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod; ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

(09.30 - 10.20)

2.

Gwella ysgolion a chodi safonau - Sesiwn dystiolaeth gyda'r Consortia Addysg Rhanbarthol

Debbie Harteveld, Rheolwr Gyfarwyddwr – Gwasanaeth Cyflawni Addysg ar gyfer De Ddwyrain Cymru

Will McLean, Cyfarwyddwr Arweiniol - Gwasanaeth Cyflawni Addysg ar gyfer De Ddwyrain Cymru a Phrif Swyddog, Plant a Phobl Ifanc - Cyngor Sir Fynwy

Louise Blatchford, Rheolwr Gyfarwyddwr dros dro – Consortiwm Canolbarth y De

Sue Walker, Cyfarwyddwr Arweiniol - Consortiwm Canolbarth y De a Phrif Swyddog Addysg - Cyngor Sir Merthyr Tudful

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gonsortia Addysg Rhanbarthol: y Gwasanaeth Cyflawni Addysg ar gyfer De Ddwyrain Cymru a Chonsortiwm Canolbarth y De.

2.2 Oherwydd diffyg amser, cytunwyd y byddai'r cwestiynau heb eu gofyn yn cael eu hanfon at y Consortia er mwyn iddynt ymateb yn ysgrifenedig.

 

(10.30 - 11.20)

3.

Gwella ysgolion a chodi safonau - Sesiwn dystiolaeth gyda'r Consortia Addysg Rhanbarthol

Andi Morgan, Rheolwr Gyfarwyddwr dros dro - Ein Rhanbarth ar Waith

Kate Evan-Hughes, Cyfarwyddwr Arweiniol - Ein Rhanbarth ar Waith a Chyfarwyddwr Plant ac Ysgolion - Cyngor Sir Penfro

Arwyn Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr - Gwasanaeth Gwella ac Effeithiolrwydd Ysgolion Gogledd Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Ian Roberts, Cyfarwyddwr Arweiniol - GwE a Kate Evan-Hughes, Cyfarwyddwr Arweiniol - ERW

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gonsortia Addysg Rhanbarthol GwE ac ERW.

3.3 Cytunodd ERW i ddarparu dadansoddiad fesul awdurdod lleol o'r £250,000 y mae’n ei gael yn 2019-20 gan ei awdurdodau lleol.

3.4 Oherwydd diffyg amser, cytunwyd y byddai'r cwestiynau heb eu gofyn yn cael eu hanfon at y Consortia er mwyn iddynt ymateb yn ysgrifenedig.

 

 

(11.20)

4.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

4.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

4.1

Llythyr ar y cyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Addysg – camau nesaf yr adroddiad Cadernid Meddwl

Dogfennau ategol:

4.2

Llythyr gan Adoption UK - effaith penderfyniadau cyllido diweddar ar wasanaethau cymorth i bobl ifanc mabwysiedig a'u teuluoedd yng Nghymru

Dogfennau ategol:

4.3

Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sydd wedi’i wneud o ran cael gafael ar ddata dibynadwy am wasanaethau cymdeithasol fel y nodir yn Asesiad Effaith Rheoleiddiol y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)

Dogfennau ategol:

4.4

Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Gosod y Memorandwm Esboniadol wedi'i ddiweddaru mewn perthynas â'r Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)

Dogfennau ategol:

(11.20)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.20 - 11.35)

6.

Gwella ysgolion a chodi safonau - Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod y sesiynau tystiolaeth.

 

(11.35 - 11.55)

7.

Trafod y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor ar ddiwygio etholiadol y Cynulliad - goblygiadau posibl i bwyllgorau'r Cynulliad

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr, gan gytuno y byddai ymateb drafft yn cael ei rannu ag Aelodau er mwyn iddynt gytuno arno.