Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Amseriad disgwyliedig: Drafft 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/02/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau; ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

(09.30 - 10.30)

2.

Addysg Heblaw yn yr Ysgol – sesiwn dystiolaeth 2

Comisiynydd Plant Cymru

 

Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru (trwy gynhadledd fideo)

Jane Houston, Cynghorydd Polisi - Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru (trwy gynhadledd fideo)

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiynydd Plant Cymru.

2.2 Oherwydd cyfyngiadau amser, cytunwyd y byddai'r cwestiynau heb eu gofyn yn cael eu hanfon at y Comisiynydd Plant i gael ymateb ysgrifenedig.

 

(10.45 - 11.45)

3.

Addysg Heblaw yn yr Ysgol – sesiwn dystiolaeth 3

Estyn

 

Jassa Scott, Cyfarwyddwr Strategol - Estyn

Dyfrig Ellis, Cyfarwyddwr Cynorthwyol - Estyn

Denise Wade, Arolygydd Ei Mawrhydi - Estyn

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Estyn.

 

(11.45 - 12.45)

4.

Addysg Heblaw yn yr Ysgol – sesiwn dystiolaeth 4

Cynrychiolwyr o undebau athrawon

 

Mairead Canavan – Ysgrifennydd Rhanbarth Bro Morgannwg ac aelod o Weithrediaeth yr NEU

Tim Cox – Swyddog Polisi a Gwaith Achos Cymru, Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau (NASUWT)

Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol - Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC)

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan undebau’r athrawon.

4.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Dilwyn Roberts-Young o UCAC, nid oedd neb yn bresennol yn ei le. Neil Foden, Ysgrifennydd Dosbarth Gwynedd – roedd cynrychiolydd o’r Undeb Addysg Cenedlaethol yn bresennol yn lle Mairead Canavan.

 

(12.45)

5.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

5.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

5.1

Llythyr gan Gomisiynnydd Plant Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ynghylch P-05-924: Sicrhau bod Llysgenhadon Llesiant ym mhob ysgol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

5.2

Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd at Ysgrifennydd y Trysorlys ynghylch Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant

Dogfennau ategol:

5.3

Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - gwybodaeth ychwanegol yn dilyn y sesiwn graffu ar y gyllideb ddrafft ar 8 Ionawr

Dogfennau ategol:

5.4

Llythyr gan y Gweinidog Addysg – gwybodaeth ychwanegol yn dilyn y sesiwn graffu ar y gyllideb ddrafft ar 8 Ionawr

Dogfennau ategol:

5.5

Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad – Goblygiadau posibl i bwyllgorau'r Cynulliad

Dogfennau ategol:

5.6

Llythyr gan y Gwasanaeth Cyflawni Addysg ar gyfer De Ddwyrain Cymru yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 16 Ionawr ynghylch Gwella ysgolion a chodi safonau

Dogfennau ategol:

5.7

Llythyr gan Wasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion Gogledd Cymru (GwE) yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 16 Ionawr ynghylch gwella ysgolion a chodi safonau

Dogfennau ategol:

5.8

Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid at y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)

Dogfennau ategol:

(12.45)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.45 - 12.50)

7.

Addysg Heblaw yn yr Ysgol – trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiynau.