Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/01/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.45)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod; ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

(09.45 - 11.00)

2.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-2021

Kirsty Williams AC, y Gweinidog Addysg

Huw Morris, Cyfarwyddwr, Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes

Steve Davies, Cyfarwyddwr, Cyfarwyddiaeth Addysg

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith y Gweinidog mewn perthynas â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru.

2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r wybodaeth isod, yn ysgrifenedig, ar ôl y cyfarfod:

  • manylion swm y dyraniad ar gyfer addysg sydd wedi'i gynnwys yn Grant Cymorth Refeniw Llywodraeth Leol 2020-21, ynghyd â dadansoddiad sy'n cynnwys manylion y swm y bwriedir ei wario ar y cynnydd yng nghostau  tâl a phensiynau athrawon a faint, wedyn, fydd yn gyllid ychwanegol gwirioneddol i ysgolion. Gofynnodd y Pwyllgor hefyd i’w Gweinidog gadarnhau’r canlynol:

­   faint o gyllid canlyniadol Barnett ar gyfer 2020-21 y mae Llywodraeth Cymru wedi'i dderbyn gan Lywodraeth y DU y gellir ei briodoli i gynydd mewn gwariant ar addysg yn Lloegr;

­   faint o arian ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddarparu ar gyfer addysg, gan gynnwys dadansoddiad o faint sydd wedi'i gynnwys yn y setliad llywodraeth leol a faint sy'n cael ei sianelu drwy'r MEG Addysg

  • sut y bydd Llywodraeth Cymru yn monitro'r gwariant sy'n deillio o'r £15 miliwn a ddyrannwyd i ariannu dysgu a datblygiad proffesiynol athrawon i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd;   
  • pryd y cyhoeddir y dyddiad y bydd angen darparu gwybodaeth am y dyraniadau amrywiol yng Nghyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer ymchwil ac arloesi, gan gynnwys manylion y swm o arian preifat y disgwylir ei drosoli  (DS cadarnhawyd y caiff y wybodaeth hon ei darparu cyn gynted ag y bydd ar gael) - bydd y Pwyllgor yn rhannu'r wybodaeth hon gyda'r Pwyllgor EIS ga ei bod yn berthnasol i bortffolio’r Pwyllgor hwnnw
  • manylion pellach am ganfyddiadau adolygiad mewnol Llywodraeth Cymru o sut y mae’r £100m a ddyrannwyd i wella safonau ysgolion drwy gydol y Cynulliad hwn yn cael ei wario a sut y mae canfyddiadau’r adolygiad wedi dylanwadodd y canfyddiadau hyn ar ddyraniadau cyllideb yn 2019-20 a 2020-21

·         Oherwydd prinder amser, ni lwyddodd y Pwyllgor i ofyn cwestiwn am gyllid ar gyfer plant o Leiafrifoedd Ethnig a phlant Sipsiwn, Roma a Theithwyr ond mae wedi gofyn am ymateb ysgrifenedig.

 

 

 

(11.10 - 12.25)

3.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Julie Morgan AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Grwpiau Agored i Niwed a Llywodraethu'r GIG

Albert Heaney, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio

Yr Athro Jean White, Prif Swyddog Nyrsio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith y Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog mewn perthynas â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru.

2.2 Cytunodd y Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog i ddarparu’r wybodaeth isod, yn ysgrifenedig, ar ôl y cyfarfod:

  • y wybodaeth ddiweddaraf am ganfyddiadau Llywodraeth Cymru yn dilyn ei gwaith archwilio gyda Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol i archwilio Bondiau Effaith Gymdeithasol fel model buddsoddi ar sail canlyniadau i leihau nifer y Plant sy’n Derbyn Gofal, a hynny cyn gynted ag y bydd y gwaith hwnnw wedi'i gwblhau;  
  • cadarnhad o ble yn union yn yr Asesiad Effaith Integredig Strategol eleni mae manylion am yr “ystyriaeth glir o effaith penderfyniadau cyllidebol ar hawliau plant” y cyfeirir ato yn nhystiolaeth ysgrifenedig Llywodraeth Cymru ar gyfer y sesiwn hon; 
  • rhestr o brosiectau sy'n derbyn cyllid o dan y cynnig gofal plant ar gyfer lleoliadau sy’n cynnig darpariaeth Cyfnod Sylfaen a Gofal Plant;   
  • copi o'r llythyr a anfonwyd at Chwarae Cymru yn amlinellu'r cylch gwaith sy'n gysylltiedig â'i gyllid yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, a syniad o'r hyn y disgwylir i’r corff ei gyflawni â'r cyllid a ddyrennir iddo yng Nghyllideb Ddrafft 2020-21; 
  • manylion pellach am y £2.3 miliwn y mae Llywodraeth Cymru wedi’i ddyrannu i awdurdodau lleol yn ei Chyllideb Ddrafft 2020-21 ar gyfer gwasanaethau mabwysiadu, a rhagor o fanylion am ei hymateb i bryderon Adoption UK Wales am y modd y bydd eu cais aflwyddiannus am gyllid Grant Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i’r Trydydd Sector ar gyfer 2020-21 yn effeithio ar wasanaethau cymorth.

 

 

 

(12.25)

4.

Papurau i’w nodi

Mae’r holl bapurau i’w nodi ar gael mewn pecyn atodol ar wahân.

CYPE(5)-01-20 – Papurau i’w nodi 1 - 13

Cofnodion:

4.1 Cafodd y papurau eu nodi.

4.2 Cytunodd y Pwyllgor i ystyried yn fanylach  y papur yn ymwneud â nodyn 9 (Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad) yn y cyfarfod yr wythnos nesaf.

 

 

 

4.1

Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Gwybodaeth ychwanegol yn dilyn y cyfarfod ar 6 Tachwedd

Dogfennau ategol:

4.2

Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Asesiadau o'r Effaith ar Hawliau Plant

Dogfennau ategol:

4.3

Llythyr gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth - Canllawiau teithio gan ddysgwyr

Dogfennau ategol:

4.4

Papur gan Dr David Dallimore ynghylch addysg a gofal plant yn y blynyddoedd cynnar yng Nghymru

Dogfennau ategol:

4.5

Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Rhaglen Estynedig y GIG, ‘Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc’.

Dogfennau ategol:

4.6

Llythyr gan y Gweinidog Addysg - Addysg ddewisol yn y cartref

Dogfennau ategol:

4.7

Llythyr gan y Gweinidog Addysg – Y wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Dogfennau ategol:

4.8

Llythyr gan y Cadeirydd at Lywodraeth Cymru - Iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc – y camau nesaf o ran Cadernid Meddwl

Dogfennau ategol:

4.9

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad - Goblygiadau posibl ar gyfer pwyllgorau'r Cynulliad

Dogfennau ategol:

4.11

Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Y wybodaeth ddiweddaraf am Iechyd Meddwl Amenedigol

Dogfennau ategol:

4.10

Llythyr gan y Gweinidog Addysg – Y wybodaeth ddiweddaraf am hyfforddiant yn y sector addysg gan y Ganolfan Cymorth Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod

Dogfennau ategol:

4.12

Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – diweddariad am welliannau Cyfnod 3 i’r Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)

Dogfennau ategol:

4.13

Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Grŵp Gweithredu Strategol – diweddariad am welliannau Cyfnod 3 i’r Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)

Dogfennau ategol:

(12.25)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.25 - 12.45)

6.

Craffu ar Gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-2021 - Trafod y dystiolaeth

Cofnodion: