Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 02/05/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.20)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jack Sargeant AC. Roedd Jayne Bryant AC yn dirprwyo ar ei ran.

 

 

(09.20 - 10.30)

2.

Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) - Sesiwn dystiolaeth 1

Llywodraeth Cymru

Julie Morgan AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dirprwy Gyfarwyddwr Yr Is-adran Plant a Theuluoedd

Emma Gammon, Cyfreithiwr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

(10.40 - 11.40)

3.

Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) - Sesiwn dystiolaeth 2

Byddwch yn Rhesymol Cymru

Jamie Gillies, llefarydd dros Byddwch yn Rhesymol

Sally Gobbett, Rhiant/Ymgyrchydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Byddwch yn Rhesymol Cymru.

3.2 Cytunodd i ddarparu nodyn am y canlynol:

·         manylion y dystiolaeth y soniwyd amdani ynghylch effeithiau cosbi plant yn gorfforol ac yn anghorfforol;

·         rhagor o fanylion am yr honiad bod yr amddiffyniad cosb resymol wedi cael ei ddefnyddio tair gwaith dros gyfnod o naw mlynedd yn Lloegr, gan gynnwys a oedd cyhuddiadau pelau wedi'u dwyn yn ystod adeg yr achosion unigol hynny a

·         rhagor o wybodaeth am y cyfraddau erlyn mewn perthynas â chosb gorfforol yn Seland Newydd.  

 

(11.40 - 12.40)

4.

Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) - Sesiwn dystiolaeth 3

Rhwydwaith Amddiffyniad Cyfartal Cymru (Sefydliad olynol i'r gynghrair Does Dim Curo Plant Cymru)

 

Andy James, Cadeirydd dros dro - Rhwydwaith Amddiffyniad Cyfartal Cymru

Catriona Williams, OBE, Prif Swyddog Gweithredol – Plant yng Nghymru

Vivienne Laing, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus – NSPCC Cymru/Wales

Menna Thomas, Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Polisi) – Barnardo's Cymru

Dr Katherine Shelton, Uwch-ddarlithydd Seicoleg, Prifysgol Caerdydd ac aelod o Academyddion dros Amddiffyniad Cyfartal.

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rhwydwaith Amddiffyniad Cyfartal Cymru.

4.2 Cytunodd i ddarparu nodyn am y canlynol:

  • manylion y dystiolaeth y soniwyd amdani ynghylch effeithiau cosbi plant yn gorfforol ac yn anghorfforol;
  • manylion achosion perthnasol yng Ngweriniaeth Iwerddon;
  • manylion y dystiolaeth y cyfeiriwyd ati sy'n gwrth-ddweud honiadau bod data o Sweden wedi dangos cysylltiad rhwng newid y gyfraith ar gosb resymol a chynnydd mewn trais gan blentyn tuag at blentyn arall.

 

 

 

 

(13.10 - 13.55)

5.

Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) - Sesiwn dystiolaeth 4

Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru

Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru

Rachel Thomas, Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Comisiynydd Plant.

 

(13.55)

6.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

6.1 Cafodd y papurau eu nodi.

6.1

Llythyr gan y Gweinidog Addysg - y wybodaeth ddiweddaraf am ddata cyrhaeddiad Cyfnod Allweddol 4 ar gyfer 2018

Dogfennau ategol:

6.2

Llythyr gan y Gweinidog Addysg - y Cod drafft ar Anghenion Dysgu Ychwanegol

Dogfennau ategol:

6.3

Llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Darpariaeth CAMHS ar gyfer cleifion mewnol

Dogfennau ategol:

6.4

Llythyr at y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)

Dogfennau ategol:

6.5

Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)

Dogfennau ategol:

6.6

Llythyr gan y Gweinidog Addysg - y wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Dogfennau ategol:

6.7

Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Ymchwil ac Arloesedd yng Nghymru

Dogfennau ategol:

6.8

Llythyr gan Brif Weinidog Cymru - Gwella canlyniadau i blant mewn gofal

Dogfennau ategol:

6.9

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - Deiseb P-05-872 - Dylid diogelu cyllid ysgolion neu gyfaddef bod y gwasanaeth a ddarperir yn gwanhau

Dogfennau ategol:

6.10

Llythyr gan Sefydliad Prydeinig y Galon - Pryderon ynghylch y cwricwlwm newydd

Dogfennau ategol:

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

7.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(13.55 - 14.00)

8.

ChilBil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiynau.

 

(14.00 - 15.00)

9.

Ymchwiliad i Gyllido Ysgolion - trafod y prif faterion

Cofnodion:

9.1 Oherwydd cyfyngiadau amser bydd y papur yn cael ei gynnwys ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod wythnos nesaf.