Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
(09.30 - 10.30) |
Nodyn briffio technegol Llywodraeth Cymru - Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) Cofnodion: 2.1 Cafodd
y Pwyllgor frîff ar y Bil. |
|
(10.45 - 11.15) |
Trafod y dull gweithredu o ran y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) Cofnodion: 3.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull gweithredu o ran y Bil.
Cytunodd yr Aelodau ar y canlynol: ·
Y cylch
gorchwyl drafft ar gyfer craffu ar egwyddorion cyffredinol y Bil yng Nghyfnod
1; ·
Cyhoeddi
galwad agored am dystiolaeth ac ysgrifennu at randdeiliaid allweddol am
dystiolaeth ysgrifenedig; ·
Rhestr o
dystion ar gyfer sesiynau tystiolaeth lafar; a ·
Cynnal
gweithgareddau ymgysylltu ehangach gyda Senedd Ieuenctid Cymru a gwahodd y ddau
brif grŵp ymgyrchu (‘Sdim Curo Plant a Byddwch yn Rhesymol Cymru) i
hwyluso grwpiau ffocws rhwng Aelodau ac oedolion. |
|
(11.15 - 11.45) |
Pwysau Iach: Cymru Iach - ystyried yr ymateb drafft i'r ymgynghoriad Cofnodion: 4.1 Yn amodol ar fân newidiadau, cytunodd y Pwyllgor ar
yr ymateb drafft i'r ymgynghoriad. Bydd yr ymateb yn cael ei gyflwyno i
Lywodraeth Cymru erbyn ei ddyddiad cau, sef 12 Ebrill. |