Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/03/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a chafwyd ymddiheuriadau gan Michelle Brown AC. Nid oedd dirprwy ar ei rhan. 

 

(09.30 - 10.30)

2.

Ymchwiliad i Gyllido Ysgolion - sesiwn dystiolaeth

 

Chris Llewelyn, Prif Weithredwr - CLlLC
Jon Rae, Cyfarwyddwr Adnoddau - CLlLC

Dilwyn Williams, Prif Weithredwr, Cyngor Gwynedd ac aelod o'r Is-grŵp Dosbarthu

Anthony Hunt, Arweinydd Cyngor Torfaen a Llefarydd CLlLC dros Gyllid ac Adnoddau

Paula Ham, Arweinydd Strategol CCAC – Cyllid a Chyfarwyddwr Addysg, Cyngor Bro Morgannwg



 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru.

 

2.2        Cytunodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddarparu nodyn ynglŷn â'r canlynol:

·         y goblygiadau o ran cost yn sgil dyfarniad cyflogau athrawon a chyfraniadau pensiwn cysylltiedig y cyflogwyr, ac a yw Llywodraeth Cymru yn ariannu'r rhain yn llawn; a'r

·         newidiadau y mae'r Is-grŵp Dosbarthu wedi'u gwneud neu wedi ystyried eu gwneud i'r fformiwla setliad llywodraeth leol yn y blynyddoedd diwethaf.

 

 

(10.40 - 11.40)

3.

Ymchwiliad i Gyllido Ysgolion - sesiwn dystiolaeth

Debbie Harteveld, Rheolwr Gyfarwyddwr - Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA) De-ddwyrain Cymru

Arwyn Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr - GwE

Geraint Rees, Rheolwr Gyfarwyddwr – Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)

Esther Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr Dros Dro – Consortiwm Canolbarth y De (CSC)

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Consortia Rhanbarthol.

 

(11.40)

4.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

4.1 Nodwyd y papur

 

4.1

Llythyr gan y Gweinidog dros Addysg - Y cod anghenion dysgu ychwanegol drafft

Dogfennau ategol:

(11.40)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod a'r cyfarfod cyfan ar 28 Mawrth

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.40 - 12.00)

6.

Ymchwiliad i Gyllido Ysgolion - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywodd.