Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/03/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jack Sargeant AC a
Michelle Brown AC. Nid oedd Aelodau'n dirprwyo ar eu rhan. |
|
(09.30 - 10.30) |
Craffu ar y Strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach - sesiwn dystiolaeth Dr Frank
Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru Nathan
Cook, Pennaeth y Gangen Byw'n Iach ac Egnïol – Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Bu'r
Pwyllgor yn craffu ar waith y Prif Swyddog Meddygol yng nghyswllt y strategaeth
ddrafft. 2.3
Cytunodd y Prif Swyddog Meddygol i ddarparu gwybodaeth yn egluro faint o arian
a gafwyd gan Lywodraeth Cymru o ganlyniad i'r ardoll diwydiant diodydd meddal. |
|
Papurau i’w nodi Cofnodion: 3.1 Cafodd
y papurau eu nodi. 3.2
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol ynghylch gwasanaethau cleifion mewnol CAMHS Haen 4 yng
Nghymru. 3.2
Cytunodd y Pwyllgor i ymateb i'r Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â Deiseb
P-05-857 - Dylid creu Tasglu Cenedlaethol ar gyfer iechyd meddwl plant. 3.3
Cytunodd y Pwyllgor i dderbyn y cynnig ar gyfer sesiwn friffio ar asesiadau
effaith gronnol gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. |
||
Llythyr gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSCC) - CAMHS: Darpariaeth ar gyfer Cleifion Mewnol Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - CAMHS: Darpariaeth ar gyfer Cleifion Mewnol Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gomisiynydd Plant Cymru - Gwasanaethau CAMHS haen 4 ar gyfer cleifion mewnol yng Nghymru Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan sefydliad Cymwysterau Cymru at y Gweinidog Addysg - Cymwysterau ar gyfer y cwricwlwm newydd Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Addysg - Datblygu'r Cwricwlwm newydd i Gymru Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Addysg - y Cod drafft ar Anghenion Dysgu Ychwanegol Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Addysg - Gradd ar Wahân? Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol - Sesiwn friffio i'r Pwyllgorau ynghylch y model Asesu Effeithiau Cronnus Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - Deiseb P-05-857 Dylid creu tasglu cenedlaethol ar gyfer iechyd meddwl plant Dogfennau ategol: |
||
Llythyr at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â’r UE gan Gomisiynydd Plant Lloegr, Comisiynydd Plant yr Alban, Comisiynydd Plant Cymru a Chomisiynydd Plant Gogledd Iwerddon - Brexit a’i oblygiadau i blant Dogfennau ategol: |
||
(10.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10.45 - 11.00) |
Craffu ar y Strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach - trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn gyda'r Prif
Swyddog Meddygol. Cytunodd y Pwyllgor i ystyried ymateb drafft i'r ymgynghoriad
yn ystod y cyfarfod ar 28 Mawrth. |
|
(11.00 - 11.45) |
Statws Cymhwyster Bagloriaeth Cymru - trafod yr adroddiad drafft Cofnodion: 6.1 Yn
amodol ar fân newidiadau, cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft. |
|
(11.45 - 12.30) |
Y Cod Drafft ar Anghenion Dysgu Ychwanegol - trafod yr ymatebion i'r ymgynghoriad Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Yn
amodol ar fân newidiadau, cytunodd y Pwyllgor ar yr ymateb drafft i'r
ymgynghoriad. |
|
(12.30 - 12.55) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20: Asesiadau effaith sy'n cyd-fynd â chyllidebau drafft - trafod yr adroddiad drafft Cofnodion: 8.1
Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft. |
|
(12.55 - 13.00) |
Amserlen Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) Cofnodion: 9.1
Trafododd y Pwyllgor amserlen y Bil. |