Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Cafwyd
ymddiheuriadau gan Suzy Davies AC a Julie Morgan AC. Roedd Jack Sargeant AC yn dirprwyo
yn lle Julie Morgan, ac nid oedd unrhyw un yn dirprwyo yn lle Suzy Davies. |
|
(09.15 - 09.45) |
Ymchwiliad i statws Cymhwyster Bagloriaeth Cymru - Trafod y materion allweddol Cofnodion: 2.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol. Byddai
adroddiad drafft yn cael ei drafod mewn adroddiad yn y dyfodol. |
|
(09.45 - 10.30) |
Cyllido Ysgolion - Briffio technegol Cofnodion: 3.1 Cafodd yr Aelodau sesiwn friffio gan yr ymchwilwyr ynghylch yr ymchwiliad Cyllido
Ysgolion. |
|
(10.45 - 12.30) |
Cyllido Ysgolion - Digwyddiad Bord Gron (Gwahoddedigion yn unig) (YB5) Bydd y
Pwyllgor yn cwrdd â rhanddeiliaid allweddol i drafod pa mor ddigonol yw cyllid
ysgolion yng Nghymru a’r ffordd y caiff cyllidebau ysgolion eu pennu a’u
dyrannu. Nid yw'r digwyddiad hwn yn agored i'r cyhoedd. Cofnodion: 4.1 Trafododd yr Aelodau yr ymchwiliad Cyllido Ysgolion
gyda rhanddeiliaid. Byddai nodyn o’r digwyddiad yn cael ei gyhoeddi. |