Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/01/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Julie Morgan AC.  Mynychodd Jack Sargeant AC fel dirprwy. 

1.2        Llongyfarchodd y Cadeirydd Julie Morgan AC ar ei phenodiad diweddar fel Dirprwy Weinidog a diolchodd iddi am ei gwaith yn ystod ei hamser fel aelod o'r Pwyllgor.

 

(09.30 - 11.00)

2.

Hynt y gwaith gan Lywodraeth Cymru wrth ddatblygu Cwricwlwm newydd Cymru – Sesiwn dystiolaeth

Kirsty Williams AC, y Gweinidog Addysg

Steve Davies, Cyfarwyddwr, Cyfarwyddiaeth Addysg

Claire Rowlands, Dirprwy Gyfarwyddwr Cwricwlwm

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Addysg. 

2.2 Cytunodd y Gweinidog i roi rhagor o fanylion am gynrychiolaeth Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru yn y cyfarfodydd perthnasol o'r bwrdd newid.

 

 

(11.15 - 12.30)

3.

Gwaith dilynol ar Adroddiad y Pwyllgor ar Iechyd Meddwl Amenedigol

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Liz Davies, Uwch-swyddog Meddygol

Karen Jewell, Swyddog Nyrsio - Iechyd Atgenhedlol Menywod

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn am y canlynol:

·         Y data a’r wybodaeth am iechyd amenedigol y mae byrddau iechyd lleol a Llywodraeth Cymru yn eu casglu;

·         Nifer y menywod sydd wedi cael eu lleoli ar ward seiciatrig oedolion heb eu plentyn oherwydd afiechyd meddwl amenedigol;

·         Erbyn pryd y bydd disgwyl i bob bwrdd iechyd lleol ddilyn safonau ansawdd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion; a

·         Gwybodaeth bellach am y cyfeiriadur gwasanaethau trydydd sector a sut y caiff ei ddiweddaru.

3.3 Mae’r Gweinidog wedi ymrwymo i ddarparu:

·         ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2018-19, amlinelliad cynhwysfawr o’r lleoliadau lle mae menywod wedi cael eu trin ar gyfer afiechyd meddwl amenedigol, gan gynnwys yn y gymuned, wardiau seiciatreg oedolion, ac unedau mamau a babanod; a

·         diweddariad bob chwe mis ar hynt y gwaith mewn perthynas ag argymhellion y Pwyllgor a datblygiadau eraill ym maes gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru.

 

(12.30)

4.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

4.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

4.1

Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru – Ymgynghoriad ar y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) drafft

Dogfennau ategol:

4.2

Llythyr at Lywodraeth Cymru – Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2017-18: gwaith dilynol

Dogfennau ategol:

4.3

Llythyr oddi wrth Gomisiynydd Plant Cymru - Addysg ddewisol yn y cartref

Dogfennau ategol:

4.4

Llythyr oddi wrth Gadeirydd Comisiynydd Plant Cymru – Addysg ddewisol yn y cartref

Dogfennau ategol:

4.5

Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru – Y wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen trawsnewid anghenion dysgu ychwanegol (ADY)

Dogfennau ategol:

4.6

Llythyr oddi wrth Is Ganghellor Prifysgol Caerdydd - Cymhwyster Bagloriaeth Cymru

Dogfennau ategol:

4.7

Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru - Cymhwyster Bagloriaeth Cymru

Dogfennau ategol:

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod a'r cyfarfodydd ar 16 a 30 Ionawr.

(12.30 - 12.45)

6.

Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3

Cofnodion:

6.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod sesiynau'r bore.

6.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i egluro eu hymgysylltiad â rhaglen ddiwygio'r cwricwlwm ac i gadarnhau dyddiad(au)/ fersiwn (neu fersiynau) o'r wybodaeth y seiliwyd eu tystiolaeth ysgrifenedig ar y cyd arni.

6.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i fynd ar drywydd y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn ar wasanaethau iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru.