Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/11/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau, a diolchodd i Llyr Gruffydd am ei holl waith yn ystod ei gyfnod ar y Pwyllgor.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Hefin David a Michelle Brown. Nid oedd unrhyw un yn dirprwyo ar eu rhan.

 

(09.00 - 10.30)

2.

Craffu ar Gyllideb Llywodraeth Cymru 2019-20

Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Huw Morris, Cyfarwyddwr Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes

Steve Davies, Cyfarwyddwr y Gyfarwyddiaeth Addysg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith Ysgrifennydd y Cabinet a'r Gweinidog ar y gyllideb ddrafft.

2.2 Cytunwyd i'r canlynol:

·         Hysbysu'r Pwyllgor pan fydd adroddiad cynnydd ar gael ar effaith y gwariant a ddefnyddiwyd i leihau maint dosbarthiadau babanod;

·         Dadansoddiad o'r cydrannau o'r Grant Gwella Ysgolion Consortia Rhanbarthol yn 2019-20 gan gynnwys y symiau cyfatebol yn 2018-19 a chadarnhad o p'un a yw'r elfennau unigol yn parhau i fod wedi'u neilltuo at eu diben penodol;

·         Nodyn yn manylu rhagolwg Llywodraeth Cymru o'r cyfanswm y disgwylir i gael ei drosglwyddo i CCAUC ac addysg bellach o ganlyniad i weithredu adolygiad Diamond yn llawn a rhagolwg o ran pryd y disgwylir i'r cyllid hwn gael ei ryddhau i'r sectorau yn ôl blwyddyn ariannol;

·         Nodyn yn darparu i'r Pwyllgor gyda phob dyraniad cyllid (h.y. 6ed dosbarth, FEC, Dysgu Oedolion yn y Gymuned, a dyraniadau penodol eraill) o fewn y Cynllun Addysg Ôl-16.

 

 

 

 

(10.45 - 12.15)

3.

Craffu ar Gyllideb Llywodraeth Cymru 2019-20

Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Huw Irranca-Davies AC, y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol

Alan Brace, Cyfarwyddwr Cyllid

Albert Heaney, Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio

Jo-anne Daniels, Cyfarwyddwr Cymunedau a Threchu Tlodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith Ysgrifennydd y Cabinet a'r Gweinidog ar y gyllideb ddrafft.

3.2 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i ddarparu dadansoddiad o ble yn union y dyfarnwyd swm canlyniadol yr ardoll diodydd meddal gwerth £57 miliwn yng Nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru.

 

 

 

 

(12.15)

4.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

4.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

4.1

Gohebiaeth a anfonwyd gan gyngor ieuenctid Castell-nedd Port Talbot ynglŷn â phryderon ynghylch toriadau i grantiau addysg

Dogfennau ategol:

4.2

Llythyr gan Gyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys - ymgynghori ar addewid drafft

Dogfennau ategol:

4.3

Llythyr gan y Cadeirydd at y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20

Dogfennau ategol:

4.4

Llythyr gan y Cadeirydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - ymchwiliad i gyllido ysgolion

Dogfennau ategol:

4.5

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - rhagor o wybodaeth yn dilyn y cyfarfod ar 20 Medi

Dogfennau ategol:

4.6

Llythyr at y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol - Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru)

Dogfennau ategol:

4.7

Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - Diwygio'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer prydau am ddim yn yr ysgol yng Nghymru yn sgil cyflwyno Credyd Cynhwysol

Dogfennau ategol:

4.8

Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghylch yr ymchwiliad i effaith Brexit ar Addysg Uwch ac Addysg Bellach

Dogfennau ategol:

4.9

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghylch adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd

Dogfennau ategol:

4.10

Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru ynghylch ymchwiliad y Pwyllgor i Dechrau'n Deg: Allgymorth

Dogfennau ategol:

4.11

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – diweddariad 12 mis ar iechyd meddwl amenedigol

Dogfennau ategol:

(12.15)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.15 - 12.30)

6.

Craffu ar Gyllideb Llywodraeth Cymru 2019-20: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod sesiynau'r bore.