Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/03/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Hefin David; nid oedd dirprwy yn bresennol.

 

(09:15 - 10:00)

2.

Ymchwiliad i Gyllid wedi'i Dargedu i Wella Canlyniadau Addysgol - Sesiwn dystiolaeth 3

Consortia Addysg Rhanbarthol

 

Betsan O'Connor, Rheolwr Gyfarwyddwr - ERW

Cressy Morgan, Cydgysylltydd Cymorth i Ddysgwyr – ERW

Andrew Williams, Uwch-arweinydd Safonau a Chynllunio Gwelliant - Gwasanaeth Addysg ar y Cyd Consortiwm Canolbarth y De

Debbie Lewis, Uwch-arweinydd Profiadau Dysgu ac Addysgu - Gwasanaeth Addysg ar y Cyd Consortiwm Canolbarth y De

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Consortia Rhanbarthol.

2.2 ERW a Gwasanaeth Addysg ar y Cyd Consortiwm Canolbarth y De i roi enghreifftiau o sefyllfaoedd lle'r oedd mewnbwn cynghorwyr her wedi newid y modd yr oedd ysgol yn defnyddio ei dyraniad grant amddifadedd disgyblion, neu sefyllfa lle bu'n rhaid i'r consortia ystyried adhawlio dyraniad grant amddifadedd disgyblion a oedd wedi cael ei wario mewn modd amhriodol.

2.3 ERW i ddarparu nodyn ynghylch cynnwys un o'r cwestiynau a ofynnwyd ar bapur Saesneg mewn perthynas â manteision ac anfanteision masnach deg, a'r effaith y cafodd y mater hwn ar ganlyniadau.

2.4 ERW a Gwasanaeth Addysg ar y Cyd Consortiwm Canolbarth y De i ddarparu ymatebion ysgrifenedig i'r cwestiynau nas gofynnwyd.

 

 

(10:00 - 10:45)

3.

Ymchwiliad i Gyllid wedi'i Dargedu i Wella Canlyniadau Addysgol - Sesiwn dystiolaeth 4

Y Consortia Rhanbarthol

 

Sharon Williams, Cynghorydd Lles Rhanbarthol - GwE

Paul Matthews-Jones, Arweinydd Craidd - GwE

Ed Pryce, Arweinydd Strategol a Pholisi'r Gwasanaeth - Gwasanaeth Cyrhaeddiad Addysg ar gyfer De Ddwyrain Cymru (EAS)

Kath Bevan, Arweinydd dros Gydraddoldeb a Lles - Gwasanaeth Cyrhaeddiad Addysg ar gyfer De Ddwyrain Cymru (EAS)

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Consortia Rhanbarthol.

3.2 Y Gwasanaeth Cyrhaeddiad Addysg ar gyfer De Ddwyrain Cymru i ddarparu dadansoddiad o'r data cyrhaeddiad Gwyddoniaeth sy'n gysylltiedig â chymwysterau galwedigaethol a TGAU.

 

 

(10:55 - 11:40)

4.

Ymchwiliad i Gyllid wedi'i Dargedu i Wella Canlyniadau Addysgol - Sesiwn dystiolaeth 5

Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon a'r Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau

 

Rob Williams, Cyfarwyddwr Polisi - NAHT Cymru

Damon McGarvie, Pennaeth Ysgol Gynradd Gymunedol Pennar, Sir Benfro a Llywydd NAHT Cymru

Tim Pratt, Cyfarwyddwr - ASCL Cymru

Ravi Pawar, Pennaeth Ysgol Gyfun y Coed Duon

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan undebau athrawon.

 

(11:40 - 12:25)

5.

Ymchwiliad i Gyllid wedi'i Dargedu i Wella Canlyniadau Addysgol - Sesiwn dystiolaeth 6

Undeb Addysg Genedlaethol (NEU), NASUWT ac Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC)

 

Neil Foden, Swyddog Gweithredol Cymru yr Undeb Addysg Genedlaethol (Adran Undeb Cenedlaethol yr Athrawon (NUT)

Mike O'Neill, Is-lywydd yr Adran Cymdeithas Athrawon a Darlithwyr (ATL), yr Undeb Addysg Genedlaethol (NEU) Cymru

Rex Phillips, Swyddog Cenedlaethol Cymru - NASUWT

Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol - UCAC

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan undebau athrawon.

 

(12:25 - 13:25)

6.

Ymchwiliad i Gyllid wedi'i Dargedu i Wella Canlyniadau Addysgol - Sesiwn dystiolaeth 7

Syr Alasdair MacDonald, Cynghorydd Llywodraeth Cymru ar Addysg

Mel Ainscow, Athro Emeritws Addysg a chyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Cydraddoldeb mewn Addysg - Prifysgol Manceinion

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Syr Alasdair MacDonald a'r Athro Mel Ainscow.

 

7.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

7.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

7.1

Gwybodaeth ychwanegol gan y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant yn dilyn y cyfarfod ar 18 Ionawr

Dogfennau ategol:

7.2

Diweddariad ar ymateb Llywodraeth Cymru i Argymhellion Adroddiad y Pwyllgor: Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19

Dogfennau ategol:

(13:25)

8.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

8.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(13:25 - 13:30)

9.

Ymchwiliad i Gyllid wedi'i Dargedu i Wella Canlyniadau Addysgol - Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod y sesiynau tystiolaeth.