Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/02/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09:00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau, derbyniwyd ymddiheuriadau gan Darren
Millar a John Griffiths, nid oedd unrhyw eilyddion. |
|
(09:00 - 10:00) |
Ymchwiliad i Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc - Sesiwn dystiolaeth 17 Coleg
Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Dr Jane Fenton-May, Is-Gadeirydd - Polisi a Materion Allanol Dr Rob Morgan, Swyddog Gweithredol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Goleg Brenhinol y Meddygon Teulu. |
|
(10:00 - 10:55) |
Ymchwiliad i Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc - Sesiwn dystiolaeth 18 Cynrychiolwyr
Byrddau Iechyd Lleol John Palmer, Prif Swyddog Gweithredu - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Melanie Wilkey, Pennaeth Comisiynu ar sail Canlyniadau - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro Rose Whittle, Pennaeth Gweithrediadau a Chyflenwi, Cyfarwyddiaeth
Iechyd Plant Cymunedol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro Angela Hopkins, Cyfarwyddwr Interim Nyrsio a Phrofiad y Claf - Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Nick Wood, Prif Swyddog Gweithredu - Bwrdd Iechyd Prifysgol
Aneurin Bevan Papur 5 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg – I DDILYN Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Fyrddau Iechyd
Lleol. Cytunasant i ddarparu nodyn yn esbonio pam fod y canran gwariant
cenedlaethol ar CAMHS o gymharu â gwasanaethau iechyd meddwl oedolion a
ddyfynnwyd yn y sesiwn yn gyfystyr â rhyw 12.7%, sy'n sylweddol uwch na'r
canran gwariant unigol a ddyfynnwyd gan bob bwrdd iechyd mewn tystiolaeth
ysgrifenedig a llafar (sy'n amrywio o 5.1% - 8.5%). |
|
(11:05 - 12:00) |
Ymchwiliad i Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc - Sesiwn dystiolaeth 19 Cynrychiolwyr
Byrddau Iechyd Lleol Warren Lloyd, Seiciatrydd Ymgynghorol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Liz Carroll, Pennaeth Nyrsio, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu - Bwrdd
Iechyd Prifysgol Hywel Dda Peter Gore-Rees, Seiciatrydd Ymgynghorol Plant a Phobl Ifanc - Bwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr Alberto Salmoiraghi, Seiciatrydd Ymgynghorol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr Rhiannon Jones, Cyfarwyddwr Interim Gwasanaethau Cymunedol ac Iechyd Meddwl
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Fyrddau Iechyd
Lleol. Cytunodd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i ddarparu nodyn ar y nifer o blant a
phobl ifanc sy'n aros ar hyn o bryd am asesiad niwroddatblygiadol, a'r cyfnod
aros y maent yn ei wynebu. |
|
Er gwybodaeth, mae papur Conffederasiwn GIG Cymru hefyd yn ymwneud ag eitemau 3 a 4. Dogfennau ategol: |
||
(12:00 - 12:50) |
Ymchwiliad i Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc - Sesiwn dystiolaeth 20 Pwyllgor
Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC) Carole Bell, Cyfarwyddwr Nyrsio Carl Shortland, Uwch Gynllunydd Robert Colgate, Cyfarwyddwr Meddygol
Cyswllt Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Bwyllgor
Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru. |
|
(12:50) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 6.1 Nodwyd y papurau. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y
Cabinet dros Addysg i ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf ar athrawon cyflenwi. |
|
Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol - gwybodaeth bellach yn dilyn y cyfarfod ar 22 Tachwedd Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - Bagloriaeth Cymru Dogfennau ategol: |
||
Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg gan Undeb Addysg Genedlaethol Cymru, y Llais yr Undeb ac UCAC Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - Manylion y dyddiadau gwirio allweddol cyn rhyddhau'r cwricwlwm newydd ym mis Ebrill 2019 Dogfennau ategol: |
||
Gwybodaeth ychwanegol gan gynrychiolwyr o dimau dyletswydd brys y GIG ac ymarferwyr gofal argyfwng yn dilyn y cyfarfod ar 10 Ionawr Dogfennau ategol: |
||
E-bost at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan aelodau Chwarae Teg i Athrawon Cyflenwi – gan gynnwys eu llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghylch gwerslyfrau cyfrwng Cymraeg ar gyfer cymwysterau. Dogfennau ategol: |
||
(12:50) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 7.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(12:50 - 13:00) |
Ymchwiliad i Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc - trafod y dystiolaeth Cofnodion: 8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y cyfarfod. |