Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Jon Antoniazzi 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09.30 - 10.20)

1.

Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) - Trafod y materion allweddol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y papur ar y materion allweddol. Bydd yr adroddiad drafft yn cael ei ystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

(10.30)

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau; nid oedd dim ymddiheuriadau.

 

O dan Reol Sefydlog 17.24 dywedodd y Cadeirydd fod ei gŵr yn gwneud gwaith gyda Phrifysgol De Cymru sy'n cynnwys addysg gychwynnol i athrawon. Dywedodd Hefin David ei fod yn ddarlithydd cyswllt ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd.

 

(10.30 - 12.00)

3.

Ymchwiliad i Addysg a Dysgu Proffesiynol Athrawon - Sesiwn dystiolaeth 6

Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Steve Davies - Cyfarwyddwr, Y Gyfarwyddiaeth Addysg

Huw Foster Evans – Ymgynghorydd Proffesiynol - Datblygu gweithlu'r ysgol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.

Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i ddarparu nodyn ar y cyfleoedd sydd ar gael i gaffael statws athro cymwys tra'n gweithio.

 

(12.00)

4.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

Nodwyd y papurau.

 

4.1

Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Datblygu’r cwricwlwm newydd

Dogfennau ategol:

4.2

Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

4.3

Llythyr gan y Comisiynydd Plant at y Prif Weinidog

Dogfennau ategol:

(12.00)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau nesaf ac ar gyfer y cyfarfod cyfan ar 4, 10 a 18 Mai.

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.00 - 12.20)

6.

Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Carchardai a Llysoedd

Cofnodion:

7.1 Ystyriodd y Pwyllgor y papur ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol. Bydd adroddiad yn cael ei osod yn y man.

 

(12.20 - 12.30)

7.

Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith. Byddai papur cwmpasu ar ymchwiliadau posibl yn y dyfodol yn cael ei ystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol.