Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Jon Antoniazzi 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 974KB) gweld fel HTML (585KB)

 

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Ni chafwyd ymddiheuriadau. Croesawodd y Cadeirydd Dai Lloyd AC a oedd yn bresennol ar ran y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.

 

(09.30 - 10.20)

2.

Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 10

Iestyn Davies, Prif Weithredwr - Colegau Cymru

Joe Baldwin, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Dysgwyr, Coleg Penybont

Humie Webbe, Hyrwyddwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth - Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Colegau Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.

 

Cytunodd Colegau Cymru i ddarparu nodyn am nifer y myfyrwyr mewn Colegau Addysg Bellach sydd wedi’u nodi i fod ag Anawsterau a/neu Anableddau Dysgu (AAD) ar hyn o bryd.

 

(10.20 - 11.10)

3.

Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 11

Eleri Griffiths, Rheolwr Polisi - Mudiad Meithrin

Claire Protheroe,  Rheolwr Gwasanaethau Uniongyrchol (Cymru) - PACEY

Jane O'Kane,  Pennaeth Proffesiynol Ymwelwyr Iechyd  - Fforwm Ymwelwyr Iechyd Cymru Gyfan

Jayne Morris, Ymwelydd iechyd arweiniol ar gyfer plant ag anableddau

Andrea Wright, rheolwr arweiniol ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol - Cymdeithas Darparwyr Cyn-ysgol Cymru

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mudiad Meithrin,

Cymdeithas Broffesiynol ar gyfer Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar (PACEY), Fforwm Ymwelwyr Iechyd Cymru Gyfan a Chymdeithas Darparwyr Cyn-ysgol Cymru.

 

Cytunodd Mudiad Meithrin i ddarparu nodyn am ehangu’r diffiniad o Anghenion Dysgu Ychwanegol.

 

(11.20 - 12.00)

4.

Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 12

Sara Moran,  Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus - Diabetes UK

Dr Justin Warner,  Aelod Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant yng Nghymru ac ymgynghorydd yn Ysbyty Athrofaol Cymru

Mandy East, Cydlynydd Cenedlaethol -  Anaphylaxis Campaign

Ann Sivapatham, Rheolwr Cymru - Epilepsy Action

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

O dan Reol Sefydlog 17.24 datganodd Darren Millar AC ei fod yn Is-lywydd Epilepsy Action.

 

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Diabetes UK, Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, Ymgyrch Anaffylacsis ac Epilepsy Action.

 

(12.05 - 12.55)

5.

Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 13

Dr Dave Williams, Cyfarwyddwr Adrannol Gwasanaethau Teulu a Therapi, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Rosemarie Whittle, Pennaeth Gweithrediadau a Chyflenwi, Cyfarwyddiaeth Iechyd Plant Cymunedol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Ellis Peters, Swyddog Arweiniol ar gyfer Therapi Pediatrig Galwedigaethol, Gwasanaethau Therapi Galwedigaethol (Pontio ac Anableddau Dysgu), Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Cydffederasiwn y GIG.

 

(12.55 - 13.45)

6.

Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 14

Alison Davies, Cyfarwyddwr Cyswllt, Arfer Proffesiynol, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru

Lisa Turnbull, Cynghorydd Polisi a Materion Cyhoeddus, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Coleg Nyrsio Brenhinol.

 

(14.40 - 15.30)

7.

Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 15

Dr Karina Dancza, Cynghorydd Proffesiynol, Plant a Phobl Ifanc, Coleg y Therapyddion Galwedigaethol

Sarah Lewis-Simms, Prif Therapydd Galwedigaethol ar gyfer Plant, Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf ac Aelod o Goleg y Therapyddion Galwedigaethol 

Kate Fallon, Ysgrifennydd Cyffredinol - Cymdeithas y Seicolegwyr Addysg

Mary Greening, Cymdeithas y Seicolegwyr Addysg - Arweinydd Cymru 

Dr Alison Stroud, Pennaeth Swyddfa Cymru - Coleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd

Pippa Cotterill, Swyddog proffesiynol arweiniol ar gyfer plant oed ysgol - Coleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd

 

 

 

     

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Goleg y Therapyddion Galwedigaethol, Cymdeithas y Seicolegwyr Addysg a Choleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith.

 

(15.30)

8.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

Nodwyd y papurau.

8.1

Llythyr gan y Cadeirydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Dogfennau ategol:

8.2

Llythyr gan y Cadeirydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon yn dilyn y cyfarfod ar 18 Ionawr

Dogfennau ategol:

8.3

Llythyr gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes - y wybodaeth ddiweddaraf am y canllawiau ar gefnogi dysgwyr ag anghenion gofal iechyd

Dogfennau ategol:

8.4

Llythyr gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes – rhagor o wybodaeth ariannol am y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Dogfennau ategol:

(15.30)

9.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o Eitem 1 yn y cyfarfod ar 22 Mawrth

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.