Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau.  Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar, ac roedd Andrew RT Davies yn dirprwyo.  O dan Reol Sefydlog 17.24 datganodd Llyr Gruffydd AC ei fod yn gyn Is-lywydd Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol.

3.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

Nodwyd y papurau canlynol.

3.2

Llythyr at y Cadeirydd gan NSPCC Cymru

Dogfennau ategol:

3.3

Llythyr gan y Cadeirydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - Grant Gwella Addysg: Plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr a Lleiafrifoedd Ethnig

Dogfennau ategol:

3.4

Llythyr gan y Cadeirydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Darpariaeth Eiriolaeth Statudol

Dogfennau ategol:

3.5

Gohebiaeth gan Gyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol mewn cysylltiad â’r Ymchwiliad i Waith Ieuenctid.

Dogfennau ategol:

(11.00)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

(11.00 - 11.20)

5.

Trafodaeth ynghylch y gwaith craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywodd yn ystod y sesiwn.

 

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch y materion a godwyd yn ystod y sesiwn.

(11.20 - 11.40)

6.

Ymchwiliad i Waith Ieuenctid - Ystyried y papur ar y materion allweddol

Cofnodion:

Cytunodd yr Aelodau i ystyried y papur mewn cyfarfod yn y dyfodol.

11.40 - 12.00

7.

Ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol.  Bydd adroddiad yn cael ei osod yn argymell bod y Cynulliad yn derbyn y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol.

(12.00 - 12.20)

8.

Adolygiad Diamond: llythyr drafft i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y llythyr a anfonir at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.

(09.30 - 11.00)

2.

Scrutiny of Welsh Government draft budget 2017 - 18 - Cabinet Secretary for Communities and Children

Dogfennau ategol:

3.1

Ymateb Llywodraeth Cymru i ymgynghoriad y Pwyllgor Arferion Hysbysebu ar roi cyfyngiadau ar hysbysebion i blant na chânt eu darlledu sy'n ymwneud â diodydd meddal a bwyd.

Dogfennau ategol: