Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Marc Wyn Jones
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF 347 KB) Gweld
fel HTML (299 KB) |
||
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. O dan Reol Sefydlog 17.24, datganodd Llyr Gruffydd AC ei fod yn gyn
Is-lywydd ar Gyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol, datganodd
Lynne Neagle AC fod ei gŵr yn gweithio i Brifysgol De Cymru ar hyn o bryd,
a datganodd Hefin David AC ei fod yn ddarlithydd cyswllt ym Mhrifysgol
Fetropolitan Caerdydd. |
|
(09.30 - 10.45) |
Ymchwiliad i waith ieuenctid - Sesiwn dystiolaeth 3 -Llywodraeth Cymru Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes Kara Richards, Pennaeth Ymgysylltu a Chyflogaeth
Ieuenctid Sam Evans,
Uwch-reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog dros Ddysgu Gydol Oes a'r
Iaith Gymraeg. Cytunodd y Gweinidog i ddarparu'r canlynol: Canlyniadau'r ymarfer mapio cyfredol o ddarpariaeth y sector gwirfoddol o
ran gwaith ieuenctid; Astudiaethau achos yn dangos lle mae awdurdodau lleol a gweithwyr ym maes
ieuenctid yn cydweithio'n dda ac enghreifftiau o ble mae angen cymorth pellach;
Yr holl wybodaeth a gyhoeddir ar y ddarpariaeth statudol ar gyfer gwaith
ieuenctid, gan gynnwys gwybodaeth ynghylch ffrydiau ariannu; Ffigurau ar y lleihad mewn niferoedd staff yn ystod y blynyddoedd diweddar
yn adran Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru; Dadansoddiad o'r £36.6 miliwn sy'n cael ei wario rhwng awdurdodau lleol ar
wasanaethau ieuenctid ledled Cymru; Y themâu sy'n deillio o'r ymgynghoriad diweddar ar gynigion i gefnogi
datblygiad Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cenedlaethol newydd. |
|
(11.00 - 12.30) |
Trafodaeth gyda’r Athro Syr Ian Diamond ar yr Adolygiad o Drefniadau Cyllido Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr Cymru Yr
Athro Syr Ian Diamond Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr Adolygiad gyda Syr Ian Diamond. |
|
Papurau i’w nodi Cofnodion: Cafodd y papurau eu nodi. |
||
Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol – rhagor o wybodaeth yn dilyn y cyfarfod ar 14 Medi Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – rhagor o wybodaeth yn dilyn y llythyr a anfonwyd ar 15 Medi ynglŷn â’r cam gweithredu yng nghyfarfod 13 Gorffennaf Dogfennau ategol: |
||
Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Dogfennau ategol: |
||
(12.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem nesaf. Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
|
(12.30 - 12.40) |
Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith. Cytunwyd i gynnal ymchwiliadau
i'r ddarpariaeth o ran eiriolaeth statudol a'r Grant Gwella Addysg: Plant
Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a phlant o leiafrifoedd ethnig. Cytunwyd hefyd i
weithio ar y broses o weithredu diwygiadau'r cwricwlwm a chraffu ar Adroddiad
Blynyddol Cymwysterau Cymru. |