Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 1MB) Gweld fel HTML (278KB)

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau.  Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

(09.30 - 10.30)

2.

Comisiynydd Plant Cymru – trafodaeth ynghylch blaenoriaethau

Papur 1

 

Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru

Hywel Dafydd, Rheolwr Materion Cyhoeddus a Pholisi

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Comisiynydd y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am ei blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

 

Cytunodd y Comisiynydd i barhau i ddiweddaru’r Pwyllgor am ei thrafodaethau â Llywodraeth Cymru ac eraill o ran datblygu prosesau i fynd i’r afael â bwlio.   

(10.30)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 4

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

(10.30 - 11.00)

4.

Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor

Papur preifat 2

 

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar yr amlinelliad o’i flaenraglen waith dros dro ar gyfer tymor yr hydref.  Cytunodd y Pwyllgor i drafod y mater ymhellach yn ei gyfarfod nesaf, ochr yn ochr â’r ymatebion a gafwyd i ymgynghoriad cyhoeddus y Pwyllgor ar ei flaenoriaethau.

(11.00 - 12.00)

5.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol - sesiwn graffu

Papur 3 – Llywodraeth

Papur 4 – CAMHS

 

Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Rebecca Evans AC, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dr Sarah Watkins, Uwch-swyddog Meddygol

Dr Heather Payne, Uwch-swyddog Meddygol ar gyfer Iechyd Mamau a Phlant

Albert Heaney, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio

Irfon Rees, Dirprwy Gyfarwyddwr, Iechyd y Cyhoedd

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

O dan Reol Sefydlog 17.24 datganodd Hefin David AC ei fod yn gyn-ddarlithydd ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd.

 

Bu’r Pwyllgor yn craffu ar waith Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog ar eu meysydd cyfrifoldeb.

 

Cytunodd y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu copi o’r llythyr a anfonwyd at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd ynghylch Strategaeth y DU ar Ordewdra ymysg Plant.

 

Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i ddarparu:

·         Nodyn ar nifer y nyrsys ysgol yng Nghymru;

·         Y wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad a gaiff ei gynnal gan y Prif Swyddog Nyrsio ar nyrsio ysgol; ac

·         Y cynlluniau diweddaraf o ran y datblygiadau newyddenedigol newydd yng Nghaerdydd.    

6.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

Nodwyd y papurau.

6.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch y dull gweithredu ar gyfer craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2017-18

Papur i'w nodi 5

 

Dogfennau ategol:

6.2

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch Bil Cymru

Papur i'w nodi 6

 

Dogfennau ategol:

6.3

Llythyr gan y Llywydd at y Cadeirydd ynghylch Datganiadau Pwyllgor yn y Cyfarfod Llawn

Papur i'w nodi 7

 

Dogfennau ategol:

6.4

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ynghylch cylch gwaith y Pwyllgor

Papur i'w nodi 8

 

Dogfennau ategol:

6.5

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – rhagor o wybodaeth yn dilyn y cyfarfod ar 13 Gorffennaf

Papur i'w nodi 9

 

Dogfennau ategol:

6.6

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – rhagor o wybodaeth yn dilyn y cyfarfod ar 13 Gorffennaf

Papur i'w nodi 10

 

Dogfennau ategol:

6.7

Llythyr gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes – rhagor o wybodaeth yn dilyn y cyfarfod ar 13 Gorffennaf

Papur i'w nodi 11

 

Dogfennau ategol:

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar 22 Medi 2016

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.