Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 03/04/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau; nid oedd dim ymddiheuriadau.

 

(09.30 - 11.00)

2.

Ymchwiliad i Gyllido Ysgolion - sesiwn dystiolaeth

Kirsty Williams AC, y Gweinidog Addysg

Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Judith Cole, Dirprwy Gyfarwyddwr Yr Is-adran Cyllid Llywodraeth Leol a Phartneriaethau Gweithlu

Steve Davies, Cyfarwyddwr y Gyfarwyddiaeth Addysg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidogion.

2.2 Cytunodd y Gweinidogion i ddarparu nodyn ar gymhlethdodau'r trefniadau ar gyfer trosglwyddo cyllidebau i flynyddoedd dilynol, mewn perthynas â'r potensial ar gyfer cyllidebau tair blynedd i ysgolion.

 

(11.00)

3.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

3.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

3.1

Llythyr oddi wrth y Gweinidog Addysg - eglurhad o ymatebion Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor, Gradd ar Wahân, ar effaith Brexit ar addysg uwch ac addysg bellach.

Dogfennau ategol:

3.2

Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch y cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

3.3

Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - Deiseb P-05-087 Dylid creu Tasglu Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl Plant

Dogfennau ategol:

3.4

Llythyr oddi wrth y Gweinidog Addysg - Datblygu'r cwricwlwm newydd i Gymru

Dogfennau ategol:

3.5

Llythyr oddi wrth Gadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu – Addysgu hanes a diwylliant Cymru mewn ysgolion

Dogfennau ategol:

3.6

Llythyr oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd at Gomisiynwyr Plant y DU – Brexit a'r goblygiadau i blant

Dogfennau ategol:

3.7

Llythyr at y Gweinidog Addysg – ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Cod ADY drafft

Dogfennau ategol:

3.8

Llythyr gan y Prif Swyddog Meddygol - gwybodaeth ychwanegol yn dilyn y cyfarfod ar 14 Mawrth

Dogfennau ategol:

3.9

Llythyr gan y Cadeirydd at y Prif Weinidog - gwella canlyniadau i blant mewn gofal

Dogfennau ategol:

(11.00)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.00 - 11.30)

5.

Ymchwiliad i Gyllido Ysgolion - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn.

 

(11.45 - 12.30)

6.

Lansio adroddiad y Pwyllgor ar Statws Cymhwyster Bagloriaeth Cymru (y rhai a wahoddwyd yn unig) (Ystafell Bwyllgora 5)