Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/07/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 O dan Reol Sefydlog 17.22 etholwyd John Griffiths yn Gadeirydd dros dro.

1.2 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Lynne Neagle, Hefin David a Michelle Brown, ac nid oedd dim dirprwyon.

 

(09:30 - 10:30)

2.

Ymchwiliad i effaith Brexit ar Addysg Uwch ac Addysg Bellach - sesiwn dystiolaeth 3

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

Dr David Blaney, Prif Weithredwr

Bethan Owen, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Sefydliadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

2.2 Cytunodd CCAUC i ddarparu nodyn ar y gymhariaeth rhwng nifer yr ymgeiswyr sy’n byw yn yr UE a rhai sy’n byw yn rhyngwladol â darparwyr addysg uwch Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

 

 

(10:30)

3.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

3.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

3.1

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - Cod Trefniadaeth Ysgolion

Dogfennau ategol:

3.2

Llythyr gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol at y Llywydd - Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru)

Dogfennau ategol:

3.3

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid - Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019 - 2020

Dogfennau ategol:

3.4

Llythyr gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol - Agweddau Rhieni tuag at Reoli Ymddygiad Plant Ifanc 2017

Dogfennau ategol:

3.5

Llythyr oddi wrth y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol - Grant Cyflawni Plant a Theuluoedd.

Dogfennau ategol:

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac ar gyfer eitemau 1 a 2 ar 20 Medi.

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10:45 - 11:00)

5.

Ymchwiliad i effaith Brexit ar Addysg Uwch ac Addysg Bellach - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod y sesiwn gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

 

(11:00 - 11:30)

6.

Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2019 - 2020 – Trafod y dull gweithredu

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y dull gweithredu.