Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 28/06/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau; ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

(09:00 - 11:00)

2.

Sesiwn graffu gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Carla Lyne, Cyfarwyddwr Gweithrediadau

Steve Vincent, Diprwy Gyfarwyddwr yr Is-Adran Effeithiolrwydd Ysgolion

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith Ysgrifennydd y Cabinet.

 

2.2 Cytunodd yr Ysgrifennydd Cabinet i ddarparu'r canlynol:

·         Nodyn ar yr achosion busnes a gyflwynwyd gan awdurdodau lleol ar gyfer yr elfen Refeniw gwerth £16 miliwn o'r cyllid i leihau maint dosbarthiadau babanod a sut y mae'r rhain yn cymharu â'r symiau a ddyrannwyd.

·         Nodyn ar y dadansoddiad o'r dyraniad o elfen Gyfalaf y cyllid.

·         Nodyn ar delerau ac amodau elfennau Refeniw a Chyfalaf y cyllid i leihau maint dosbarthiadau babanod.

·         Ffigurau ar faint o ddosbarthiadau babanod sydd â mwy na 25 o ddisgyblion ar hyn o bryd a faint a fydd ar ôl cyfnod y cyllid ymrwymedig.

·         Nodyn ar faint o ddisgyblion fydd yn elwa ar fod mewn dosbarth llai o ganlyniad i'r cyllid.

·         I ddiweddaru'r Pwyllgor ar y dogfennau diweddaraf sydd ar gael ar gynnwys y cwricwlwm wrth iddo ddod i'r amlwg. 

·         I ddarparu copïau o'r asesiadau effaith a wnaed ynglŷn â phenderfyniadau i newid y ffordd y caiff cefnogaeth i blant Lleiafrifoedd Ethnig a Sipsiwn, Roma a Theithwyr ei chyllido.

·         Nodyn ar sefyllfa'r gwasanaethau addysg teithwyr ledled Cymru.

 

 

 

(11:00)

3.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

3.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

3.1

Llythyr oddi wrth Gomisiynydd y Gymraeg at Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes – Sefyllfa’r Gymraeg mewn rhaglenni prentisiaeth yng Nghymru

Dogfennau ategol:

3.2

Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

3.3

Y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) – Gwybodaeth ychwanegol gan Cwlwm yn dilyn y cyfarfod ar 24 Mai

Dogfennau ategol:

3.4

Y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) – Gwybodaeth ychwanegol gan Estyn yn dilyn y cyfarfod ar 6 Mehefin

Dogfennau ategol:

3.5

Llythyr oddi wrth Gomisiynydd y Gymraeg – y cynnig gofal plant

Dogfennau ategol:

3.6

Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – 'Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl'

Dogfennau ategol:

3.7

Llythyr oddi wrth grŵp derbyniadau hyblyg i ysgolion Cymru – Polisi Derbyniadau i Ysgolion

Dogfennau ategol:

3.8

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - Dileuniad P-05-751 Cydnabod Achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant

Dogfennau ategol:

3.9

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20

Dogfennau ategol:

(11:00)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod a'r cyfarfod ar 4 Gorffennaf.

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11:10 - 11:20)

5.

Ystyried y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod y sesiwn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet am ragor o wybodaeth am rai materion penodol.

 

(11:20 - 12:10)

6.

Bil Cyllid Gofal Plant (Cymru) - Trafod y prif faterion

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y prif faterion. Bydd yr adroddiad drafft yn cael ei drafod yn y cyfarfod nesaf.

 

(12:10 - 12:55)

7.

Darparu gwerslyfrau ac adnoddau dysgu ar gyfer disgyblion – ystyried yr adroddiad drafft

Cofnodion:

7.1 Nid oedd digon o amser i drafod yr eitem hon. Cytunodd yr Aelodau i'w rhoi ar yr agenda ar gyfer cyfarfod yr wythnos nesaf.