Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 646KB) Gweld fel HTML (284KB)

 

(09.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau.

 

 

(09.00 - 10.00)

2.

Ymchwiliad i Addysg a Dysgu Proffesiynol Athrawon - Sesiwn dystiolaeth 7

Yr Athro Michael Waters, Prifysgol Wolverhampton

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Michael Waters, Prifysgol Wolverhampton.

 

 

(10.00 - 11.00)

3.

Ymchwiliad i Addysg a Dysgu Proffesiynol Athrawon - Sesiwn dystiolaeth 8

Consortia Addysg Rhanbarthol

 

Dr Kevin Palmer, Gwasanaeth Cyflawni Addysg De Ddwyrain Cymru

Anna Brychan, Gwasanaeth Addysg ar y Cyd Consortiwn Canolbarth y De

Betsan O'Connor, Ein Rhanbarth ar Waith

Rhys Howard Hughes, GwE

 

Mae’r wybodaeth ychwanegol a ofynnwyd amdani gan y Pwyllgor ar safonau proffesiynol i lywio’r Ymchwiliad ar Addysg a Dysgu Proffesiynol Athrawon ar gael mewn pecyn atodol ar wahân.  

 

 

            

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Consortia Addysg Rhanbarthol.

 

 

(11.00 - 11.05)

4.

Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysgiadol (Cymru) - Trefn Gwelliannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd Aelodau'r Pwyllgor i newid trefn y gwelliannau.

 

 

(11.05)

5.

Papurau i’w nodi

Mae’r holl bapurau i’w nodi ar gael mewn pecyn atodol ar wahân.  

 

CYPE(5)-24-17 – Papurau 4 - 22

Cofnodion:

Nodwyd y papurau.

 

5.1

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant - Y ddarpariaeth o ran eiriolaeth statudol

Yn y ddadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ei ymchwiliad i'r Ddarpariaeth o ran Eiriolaeth Statudol, un o'r argymhellion a gytunwyd oedd bod Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y dull gweithredu cenedlaethol i'r Pwyllgor. Mae'r llythyr hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf.

Dogfennau ategol:

5.2

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid - Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19

Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi cytuno ar ei ddull gweithredu o ran craffu ar y gyllideb. Mae'r Cadeirydd wedi ysgrifennu at holl Gadeiryddion y pwyllgorau pwnc i rannu ei syniadau ac i annog y pwyllgorau i ystyried sut y gallant gyfrannu at y broses fwyaf cydlynol ac effeithiol o graffu ar gynlluniau gwariant y Llywodraeth.

Dogfennau ategol:

5.3

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - Ysgolion bro

Ysgrifennodd y Cadeirydd at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am ysgolion bro, a darperir y wybodaeth yn y llythyr.

Dogfennau ategol:

5.4

Llythyr gan y Llywydd - Senedd Ieuenctid

Mae'r llythyr hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am brosiect y Senedd Ieuenctid.

 

Dogfennau ategol:

5.5

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon at y Pwyllgor Deisebau - Timau gofal argyfwng CAMHS

Mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi cael copi o ymateb a anfonwyd at y Pwyllgor Deisebau ynglŷn â CAMHS. 

Dogfennau ategol:

5.6

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Consortia Addysg Rhanbarthol

Cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ymchwiliad byr i ganfyddiadau memorandwm yr Archwilydd Cyffredinol ar 'Sicrhau gwelliannau yn y cymorth i ysgolion trwy gonsortia addysg rhanbarthol - adolygiad o'r cynnydd' - Cafodd nifer o faterion yn ymwneud â phortffolio'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg eu codi a'u crynhoi yn y llythyr hwn.

Dogfennau ategol:

5.7

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon - Ymchwiliad i Iechyd Meddwl Amenedigol

Ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i'r camau a godwyd yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 12 Gorffennaf. 

 

Dogfennau ategol:

5.8

Llythyr gan Uwch Grwner EM ar gyfer Gogledd Cymru (Dwyrain a Chanolog) - Ymchwiliad i Iechyd Meddwl Amenedigol

Mae'r Crwner wedi ymateb i gais y Pwyllgor am wybodaeth yn ymwneud â chwest y tynnwyd sylw'r Pwyllgor ato yn ystod ei ddigwyddiad i randdeiliaid ar iechyd meddwl amenedigol.

Dogfennau ategol:

5.9

Gohebiaeth gan Fyrddau Iechyd Lleol - Ymchwiliad i Iechyd Meddwl Amenedigol

Ysgrifennodd y Pwyllgor at yr holl Fyrddau Iechyd Lleol yn gofyn am wybodaeth ychwanegol ynglŷn â chefnogaeth seicolegol ar gyfer yr ymchwiliad. Mae'r llythyrau'n rhoi manylion y wybodaeth a ddaeth i law. 

 

Dogfennau ategol:

5.10

Llythyr gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes - Gwaith Ieuenctid

Mae'r llythyr yn ymateb i lythyr y Cadeirydd ar 10 Gorffennaf ac yn croesawu bwriad y Pwyllgor i barhau i adolygu gwaith ieuenctid ledled Cymru ac i fonitro gwaith Llywodraeth Cymru yn fanwl yn y maes hwn.

 

Dogfennau ategol:

5.11

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith - Teithio gan ddysgwyr

Mae'r llythyr hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau ym maes teithio i ddysgwyr yng Nghymru ac i ba raddau y mae awdurdodau lleol yn cydymffurfio â deddfwriaeth a chanllawiau ym maes teithio i ddysgwyr.

 

Dogfennau ategol:

5.12

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon - Fframwaith diwygiedig ar gyfer nyrsys ysgol

Ysgrifennodd y Pwyllgor at Ysgrifennydd y Cabinet yn gofyn am eglurhad ynglŷn â pherthynas nyrsys ysgol â dysgwyr sydd â chyflyrau iechyd hirdymor neu gronig, ac yn holi pam nad oes cyfeiriad yn y Fframwaith diwygiedig at ganllawiau ar anghenion gofal iechyd presennol. Mae hwn yn ymateb i'r llythyr hwnnw.

 

Dogfennau ategol:

5.13

Llythyr gan y Cadeirydd at y Llywydd - Rhaglen ar gyfer y ddeddfwriaeth sydd ar ddod

Trafododd y Pwyllgor hyn yn y cyfarfod ar 20 Gorffennaf. Dyma'r ymateb a anfonwyd ar ran y Pwyllgor at y Llywydd.

 

Dogfennau ategol:

5.14

Llythyr gan y Llywydd at y Cadeirydd - Gweithredu Deddf Cymru 2017

Mae'r holl lythyrau isod yn cyfeirio at y dyddiad ar gyfer y prif ddiwrnod penodedig.

 

Papur i’w nodi 17 - Llythyr gan y Cadeirydd at y Llywydd - Gweithredu Deddf Cymru 2017

 

Papur i’w nodi 18 - Llythyr gan y Llywydd at y Cadeirydd - Gweithredu Deddf Cymru 2017

 

Papur i’w nodi 19 - Llythyr gan y Llywydd at y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns AS - y prif ddiwrnod penodedig

Dogfennau ategol:

5.15

Gohebiaeth yn dilyn y sesiwn graffu gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar 20 Gorffennaf

Ymateb i'r camau gweithredu a godwyd yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 20 Gorffennaf. 

 

Dogfennau ategol:

5.16

Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) - Gohebiaeth a'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol diwygiedig

Mae'r ohebiaeth hon yn rhoi manylion yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol diwygiedig a gyhoeddwyd ar 8 Medi a'r wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog ar weithredu'r Rhaglen Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol.

 

 

Dogfennau ategol:

5.17

Llythyr gan y Cadeirydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Ymchwiliad i Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc

Mae'r Cadeirydd wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet yn gofyn am wybodaeth ychwanegol ar gyfer yr ymchwiliad

 

Dogfennau ategol:

(11.05)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.15 - 11.30)

7.

Ymchwiliad i Addysg a Dysgu Proffesiynol Athrawon - Trafod y dystiolaeth a gafwyd

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y cyfarfod.

 

 

(11.30 - 12.00)

8.

Ymchwiliad i Iechyd Meddwl Amenedigol - Ystyried yr adroddiad drafft

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft. Derbyniwyd yr adroddiad drafft, yn amodol ar rai mân newidiadau.

 

 

(12.00 - 12.15)

9.

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Arweiniad a Hawliadau Ariannol - Ystyried yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno.

 

 

(12.15 - 12.30)

10.

Ymchwiliad i Iechyd Emosiynol a Meddyliol Plant a Phobl Ifanc - Paratoi ar gyfer ymweliadau 28 Medi

Cofnodion:

Trafodwyd paratoadau ar gyfer ymweliadau ar 28 Medi gyda'r Aelodau.