Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/02/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30 - 14.00)

1.

Plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal: Cyfarfod â phlant a phobl ifanc

Cofnodion:

1.1 Cyfarfu'r Aelodau yn anffurfiol â'r bobl ifanc cyn y sesiynau tystiolaeth.

(14.00)

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.

2.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Vikki Howells AC a Rhianon Passmore AC. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

2.3 Yn dilyn cais gan y bobl ifanc a oedd yn rhoi tystiolaeth yn eitemau 4 a 5, cytunodd y Cadeirydd i gynnal y sesiynau hyn yn breifat.

 

(14.00 - 14.05)

3.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

(14.05 - 14.50)

4.

Plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal: sesiwn dystiolaeth 3

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-05-18 Papur 2 – Ymateb Plant yng Nghymru i'r ymgynghoriad

 

Pobl Ifanc o Voices from Care

Deborah Jones - Prif Swyddog Gweithredol, Voices from Care

Chris Dunn - Rheolwr Rhaglenni, Voices from Care

Sean O’Neil - Cyfarwyddwr Polisi, Voices from Care

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth gan bobl ifanc o Voices from Care fel rhan o'i ymchwiliad i blant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal.

 

(14.50 - 15.40)

5.

Plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal: sesiwn dystiolaeth 4

PAC(5)-05-18 Papur 3 – Ymateb Fabric i'r ymgynghoriad

 

Pobl Ifanc o Fabric

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth gan Harri Coleman, ynghyd â phobl ifanc o Voices from Care, fel rhan o'i ymchwiliad i blant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal.

 

 

(15.50 - 16.40)

6.

Plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal: sesiwn dystiolaeth 5

PAC(5)-05-18 Papur 4 – Ymateb y Rhwydwaith Maethu i'r ymgynghoriad

 

Colin Turner - Cyfarwyddwr, Y Rhwydwaith Maethu

Kate Lawson - Rheolwr Polisi, Y Rhwydwaith Maethu

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth gan Kate Lawson a Colin Turner o'r Rhwydwaith Maethu fel rhan o'i ymchwiliad i blant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal.

6.2 Cytunodd Kate Lawson i anfon enghreifftiau o arfer gorau o ran mesur effaith maethu o'i phrofiad yn Lloegr.

6.3 Cytunodd Colin Turner i anfon manylion ynghylch sesiynau sydd ar y gweill fel rhan o'r prosiect ‘Ten top key principles of social pedagogy’.

 

 

(16.40)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitemau 9 a 10

 

Cofnodion:

7.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(16.40 - 16.50)

8.

Plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal: trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

8.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(16.50 - 17.00)

9.

Y rhaglen waith: ystyried gohebiaeth a ddaeth i law

PAC(5)-05-18 Papur 4 - Llythyr gan Swyddfa Archwilio Cymru ar y diwydiannau ffilm a'r cyfryngau (24 Ionawr 2018)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Nododd yr Aelodau y llythyr a bod y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i gynhyrchu ffilm a theledu, a fydd yn cynnwys edrych ar dryloywder a chyllid grant.

9.2 Cadarnhaodd yr Aelodau y byddent yn awyddus i weld astudiaeth o'r ffeithiau yn unig yn edrych ar y buddsoddiad yn Pinewood, gan eu bod yn teimlo y byddai hyn o ddiddordeb i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a/neu'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.

 

10.

Ofcom: trafod y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth drafft

PAC(5)-05-18 Papur 5 - Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth Drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1 Trafododd yr Aelodau y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth drafft, gan ei nodi. Awgrymwyd y dylid ystyried bod y Pwyllgor perthnasol yn cynnal gwrandawiadau cyn penodi, ac y dylid adlewyrchu hyn yn yr ymateb i Lywodraeth Cymru.