Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 02/03/2020 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.00 - 13.30) |
Craffu ar Gyfrifon 2018-19: Trafod yr adroddiad drafft PAC(5)-08-20 Papur
1 – Adroddiad drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: 1.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ac awgrymodd
fân newidiadau. Bydd fersiwn ddiwygiedig yn cael ei pharatoi ar gyfer cyfarfod
y Pwyllgor ar 16 Mawrth 2020. |
|
(13.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod, ac yn
benodol Russell George AC a oedd yn bresennol yn ei rôl fel Cadeirydd Pwyllgor
yr Economi, Seilwaith a Sgiliau. 2.2 Cafwyd ymddiheuriad gan Rhianon Passmore AC. |
|
(13.30) |
Papur(au) i'w nodi Cofnodion: 3.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Cyfoeth Naturiol Cymru: Llythyr oddi wrth Clare Pillman, Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu, Cyfoeth Naturiol Cymru (20 Chwefror 2020) Dogfennau ategol: |
||
Maes Awyr Caerdydd: Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru (24 Chwefror 2020) Dogfennau ategol: |
||
(13.35 - 15.00) |
Maes Awyr Caerdydd: Sesiwn Dystiolaeth gyda Maes Awyr Caerdydd Papur briffio gan
y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-08-20
Papur 2 - Adolygiad o berfformiad a gobeithion Maes Awyr Caerdydd yng
nghyd-destun economeg meysydd awyr rhanbarthol y DU ar hyn o bryd (Adroddiad
gan Northpoint Aviation, Ymgynghorydd Teithio a Thwristiaeth) PAC(5)-08-20
Papur 3 - Maes Awyr Caerdydd: perfformiad cyfredol a’r cyd-destun busnes
(Adroddiad gan Northpoint Aviation) Roger Lewis –
Cadeirydd, Maes Awyr Caerdydd Deb Bowen Rees –
Prif Swyddog Gweithredol, Maes Awyr Caerdydd Huw Lewis -
Cyfarwyddwr Cyllid ac Ysgrifennydd y Cwmni Terry Morgan -
Cyfarwyddwr Anweithredol, Maes Awyr Caerdydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Bu'r Aelodau'n holi Roger Lewis, Deb Bowen Rees,
Terry Morgan a Huw Lewis fel rhan o'u hymchwiliad i Faes Awyr Caerdydd. |
|
(15.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r busnes a ganlyn: Eitem 6 Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(15.00 - 15.30) |
Maes Awyr Caerdydd: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law. |