Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 03/02/2020 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod ac yn enwedig Delyth Jewell AC wedi iddi gael ei hethol i’r pwyllgor ar 28 Ionawr yn lle Adam Price AC.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Vikki Howells AC. Ni chafwyd dirprwy ar ei rhan.

 

2.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

Fy Ngherdyn Teithio: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (16 Ionawr 2020)

Dogfennau ategol:

2.2

Cymorth ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (23 Ionawr 2020)

Dogfennau ategol:

(13.15 - 14.30)

3.

Cyfarwyddyd Gweinidogol - trefniadau pensiwn y GIG ar gyfer 2019/20: sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

Brîff gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-05-20 Papur 1 - Gohebiaeth gan yr Ysgrifennydd Parhaol (20 Rhagfyr 2019)

PAC(5)-05-20 Papur 2 - Gohebiaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (6 Ionawr 2020)

 

Shan Morgan - Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru

Dr Andrew Goodall - Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru

David Richards - Cyfarwyddwr Llywodraethiant a Moeseg

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Datganodd Dr Andrew Goodall fuddiant gan ei fod yn aelod o staff y GIG, sydd ar secondiad gyda Llywodraeth Cymru, ac sy’n cael pensiwn y GIG.

3.2 Craffodd yr Aelodau ar Lywodraeth Cymru ynghylch y Cyfarwyddyd Gweinidogol a gyhoeddwyd ar 18 Rhagfyr 2019 ynghylch trefniadau pensiwn y GIG ar gyfer 2019-20.

 

(14.30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitem 5

 

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(14.30 - 15.00)

5.

Cyfarwyddyd Gweinidogol - trefniadau pensiwn y GIG ar gyfer 2019/20: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law.

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law gan gytuno y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Parhaol yn Llywodraeth Cymru i roi barn y Pwyllgor am y weithdrefn a ddilynwyd ac unrhyw beth y mae angen ei wella yn y broses Cyfarwyddyd Gweinidogol.