Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/01/2020 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor. Roedd Darren Millar AC yn dirprwyo.

1.2 Gofynnodd y Clerc am enwebiadau ar gyfer Cadeirydd dros dro o dan Reol Sefydlog 17.22. Enwebodd Jenny Rathbone AC Darren Millar AC, a gafodd ei gymeradwyo gan y Pwyllgor.

1.3 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor. 

1.4 Cafwyd ymddiheuriad gan Adam Price AC.

 

(13.15-14.45)

2.

Cyfoeth Naturiol Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-03-20 Papur 1 – Cyfoeth Naturiol Cymru

PAC(5)-03-20 Papur 2 – Memorandwm Atodol Archwilydd Cyffredinol Cymru i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (Ionawr 2020)

PAC(5)-03-20 Papur 3 – Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (13 Ionawr 2020)

 

Clare Pillman – Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu, Cyfoeth Naturiol Cymru

Sir David Henshaw - Cadeirydd, Cyfoeth Naturiol Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Pwyllgor yn holi Cyfoeth Naturiol Cymru yn fanwl ar y cynnydd a wnaed wrth weithredu'r argymhellion a oedd wedi’u cynnwys yn Adroddiad y Pwyllgor (Tachwedd 2018) ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2017-18.

 

(14.45)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

Eitemau 4 & 5 o’r cyfarfod ar 27 Ionawr 2020

Cofnodion:

3.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(14.45 - 15.15)

4.

Cyfoeth Naturiol Cymru: trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law, a chytunwyd i ysgrifennu at Gyfoeth Naturiol Cymru ynghylch nifer o faterion sy’n codi.

 

(15.15 - 15.30)

5.

Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Llesiant Pobl Ifanc

Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Llesiant Pobl Ifanc

PAC(5)-03-20 Papur 4 – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor at yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru (20 Tachwedd 2019)

PAC(5)-03-20 Papur 5 – Llythyr oddi wrth yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru i Gadeirydd y Pwyllgor (12 Rhagfyr 2019)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch yr Adroddiad trawsbynciol hwn, a chytunwyd i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Parhaol i ofyn am ragor o wybodaeth.