Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Trawsgrifiad: Trawsgrifiad ar gyfer 18/11/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
Nodyn | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.00 - 13.40) |
Craffu ar Gyfrifon 2018-19 - Comisiwn y Cynulliad trafod yr adroddiad drafft PAC(5)-29-19 Papur 1 – Adroddiad Drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: 1.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chymeradwyodd yr adroddiad yn amodol ar rai mân newidiadau.
|
|
(13.40) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AC ac Adam Price AC.
|
|
(13.40) |
Papur(au) i'w nodi Cofnodion: 3.1 Cafodd y papurau eu nodi.
|
|
Craffu ar Gyfrifon 2018-19: Llythyr gan yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru (7 Tachwedd 2019) Dogfennau ategol: |
||
(13.45 - 15.15) |
Rheoli Gwastraff Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-29-19 Papur 2 – Llywodraeth Cymru
Andrew Slade – Cyfarwyddwr Cyffredinol Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru Gian Marco Currado - Cyfarwyddwr Amgylchedd a’r Môr, Llywodraeth Cymru Rhodri Asby - Dirprwy Gyfarwyddwr Gwastraff ac Effeithlonrwydd Adnoddau, Llywodraeth Cymru Dr Andy Rees - Pennaeth y Cangen Strategaeth Wastraff, Llywodraeth Cymru
Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'i ymchwiliad i Reoli Gwastraff. 4.2 Cytunodd Andrew Slade i wneud y canlynol: · Anfon copi o'r Bwletin Ystadegol ar Wastraff Trefol diweddaraf i alluogi Aelodau i nodi'r data diweddaraf ar faint o wastraff a syclamadau a gasglwyd; a · Manylion y dull a ddefnyddiodd Cyngor Abertawe wrth gyhoeddi hysbysiadau i ddeiliaid tai o dan Adran 46 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.
|
|
(15.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Eitemau 6 & 7 ac Eitemau 1 & 2 o gyfarfod 25 Tachwedd 2019
Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig.
|
|
(15.15 - 15.30) |
Rheoli Gwastraff: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law. Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
|
|
(15.30 - 16.00) |
Maes Awyr Caerdydd: Ystyried y llythyr gan Lywodraeth Cymru (30 Hydref 2019) PAC(5)-29-19 Papur 3 – Llythyr oddi wrth Llywodraeth Cymru
Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr a chytunodd i drafod ymhellach ar ôl derbyn yr wybodaeth ychwanegol a ddisgwylir gan Lywodraeth Cymru.
|