Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/11/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AC a Jenny Rathbone AC.

1.3        Gwnaeth y Cadeirydd ddatganiad mewn perthynas â digwyddiadau diweddar ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

 

(13.00)

2.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

Cymorth Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Busnesau Llythyr gan Lywodraeth Cymru (31 Hydref 2019)

Dogfennau ategol:

(13.00 - 13.30)

3.

Ffordd liniaru'r M4: Trafod yr ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru

PAC(5)-28-19 Papur 1 – Llythyr oddi wrth Llywodraeth Cymru (8 Hydref 2019)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru ynghylch ffordd liniaru’r M4 a chytunodd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau gyda barn y Pwyllgor i helpu i hwyluso unrhyw waith y mae'r Pwyllgor yn bwriadu ei wneud yn y dyfodol yn dilyn yr Adolygiad Burns.

 

(13.30 - 15.00)

4.

Craffu ar Gyfrifon 2018-19: Llywodraeth Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-28-19 Papur 2 – Cyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19

PAC(5)-28-19 Papur 3 – Papur gan yr Ysgrifennydd Parhaol ar  Fenthyciadau a buddsoddiadau

PAC(5)-28-19 Papur 4 – Papur gan yr Ysgrifennydd Parhaol ar y Cyfarwyddwyr Anweithredol

PAC(5)-28-19 Papur 5 – Papur gan yr Ysgrifennydd Parhaol ar y Grant Cyfalaf Sipsiwn a Theithwyr

PAC(5)-28-19 Papur 6 - Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar Arferion Cyllidebol Seland Newydd

 

 

Shan Morgan – Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru

Peter Kennedy - Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, Llywodraeth Cymru

David Richards - Cyfarwyddwr Moeseg a Llywodraethu, Llywodraeth Cymru

Natalie Pearson – Pennaeth Ymgysylltu a Datblygu Sefydliadol, Llywodraeth Cymru

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cynhaliodd y Pwyllgor y drydedd sesiwn graffu gyda'r Ysgrifennydd Parhaol ar Gyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19.

4.2 Cytunodd yr Ysgrifennydd Parhaol i anfon adroddiad cynnydd ar ddiwedd y flwyddyn ynghylch gwaith gweithgor Llywodraeth Cymru ar gyfer hwyluso a hyrwyddo'r Gymraeg.

 

 

(15.00)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitemau 6 a 7 ac Eitem 1 o gyfarfod 18 Tachwedd 2019

 

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.00 - 15.45)

6.

Craffu ar Gyfrifon 2018-19: Llywodraeth Cymru

David Richards - Cyfarwyddwr Moeseg a Llywodraethu, Llywodraeth Cymru

Jeff Farrar – Cyfarwyddwr Anweithredol

Ann Keane – Cyfarwyddwr Anweithredol

 

Cofnodion:

6.1 Fel rhan o waith craffu’r Pwyllgor ar Gyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19, trafododd yr Aelodau rôl cyfarwyddwyr anweithredol gydag Ann Keane a Jeff Farrar.

 

 

(15.45 - 16.00)

7.

Craffu ar Gyfrifon 2018-19: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

7.1 Oherwydd cyfyngiadau amser, cafodd yr eitem hon ei gohirio.