Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Trawsgrifiad: Trawsgrifiad ar gyfer 11/11/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
Nodyn | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AC a Jenny Rathbone AC. 1.3 Gwnaeth y Cadeirydd ddatganiad mewn perthynas â digwyddiadau diweddar ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
|
|
(13.00) |
Papur(au) i'w nodi Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
|
|
Cymorth Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Busnesau Llythyr gan Lywodraeth Cymru (31 Hydref 2019) Dogfennau ategol: |
||
(13.00 - 13.30) |
Ffordd liniaru'r M4: Trafod yr ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru PAC(5)-28-19 Papur 1 – Llythyr oddi wrth Llywodraeth Cymru (8 Hydref 2019) Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru ynghylch ffordd liniaru’r M4 a chytunodd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau gyda barn y Pwyllgor i helpu i hwyluso unrhyw waith y mae'r Pwyllgor yn bwriadu ei wneud yn y dyfodol yn dilyn yr Adolygiad Burns.
|
|
(13.30 - 15.00) |
Craffu ar Gyfrifon 2018-19: Llywodraeth Cymru Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-28-19 Papur 2 – Cyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 PAC(5)-28-19 Papur 3 – Papur gan yr Ysgrifennydd Parhaol ar Fenthyciadau a buddsoddiadau PAC(5)-28-19 Papur 4 – Papur gan yr Ysgrifennydd Parhaol ar y Cyfarwyddwyr Anweithredol PAC(5)-28-19 Papur 5 – Papur gan yr Ysgrifennydd Parhaol ar y Grant Cyfalaf Sipsiwn a Theithwyr PAC(5)-28019 Papur 6 - Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar Arferion Cyllidebol Seland Newydd
Shan Morgan – Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru Peter Kennedy - Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, Llywodraeth Cymru David Richards - Cyfarwyddwr Moeseg a Llywodraethu, Llywodraeth Cymru Natalie Pearson – Pennaeth Ymgysylltu a Datblygu Sefydliadol, Llywodraeth Cymru
Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Cynhaliodd y Pwyllgor y drydedd sesiwn graffu gyda'r Ysgrifennydd Parhaol ar Gyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19. 4.2 Cytunodd yr Ysgrifennydd Parhaol i anfon adroddiad cynnydd ar ddiwedd y flwyddyn ynghylch gwaith gweithgor Llywodraeth Cymru ar gyfer hwyluso a hyrwyddo'r Gymraeg.
|
|
(15.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Eitemau 6 a 7 ac Eitem 1 o gyfarfod 18 Tachwedd 2019
Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig.
|
|
(15.00 - 15.45) |
Craffu ar Gyfrifon 2018-19: Llywodraeth Cymru David Richards - Cyfarwyddwr Moeseg a Llywodraethu, Llywodraeth Cymru Jeff Farrar – Non-Executive Director Ann Keane – Non-Executive Director
Cofnodion: 6.1 Fel rhan o waith craffu’r Pwyllgor ar Gyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19, trafododd yr Aelodau rôl cyfarwyddwyr anweithredol gydag Ann Keane a Jeff Farrar.
|
|
(15.45 - 16.00) |
Craffu ar Gyfrifon 2018-19: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 7.1 Oherwydd cyfyngiadau amser, cafodd yr eitem hon ei gohirio.
|