Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/11/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Adam Price AC.

1.3        Cafwyd datganiad o fuddiant gan Rhianon Passmore AC ar gyfer Eitem 3 gan fod ei phartner yn un o gyflogeion Thales Group, sef cwmni seiberddiogelwch.

 

(13.00 -13.05)

2.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

Rheoli gwastraff: Gwybodaeth ychwanegol gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Dogfennau ategol:

2.2

Craffu ar Gyfrifon 2018-19: Gwybodaeth ychwanegol gan Gomisiwn y Cynulliad (21 Hydref 2019)

Dogfennau ategol:

2.3

Rheoli apwyntiadau dilynol cleifion allanol ar draws Cymru: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (23 Hydref 2019)

Dogfennau ategol:

(13.05 - 14.35)

3.

Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-27-19 Papur 1 – Llywodraeth Cymru

PAC(5)-27-19 Papur 2 – Datganiad Ysgrifenedig gan

Llywodraeth Cymru: y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Diweddariad ar Iechyd a Gofal Digidol (30 Medi 2019)       

 

Dr Andrew Goodall – Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr GIG Cymru

Ifan Evans – Cyfarwyddwr, Technoleg, Digidol a Thrawsnewid Llywodraeth Cymru

Alan Brace – Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru

Andrew Griffiths - Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru a Phrif Swyddog Gwybodaeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Fel rhan o'r gwaith o fonitro'r mater hwn, cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru i drafod y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran gweithredu argymhellion y Pwyllgor.

3.2 Cytunodd Dr Andrew Goodall i:

·         rannu manyleb swydd y Prif Swyddog Digidol pan fydd wedi'i chwblhau a rhoi gwybod am yr ymgeisydd llwyddiannus pan fydd wedi'i benodi;

·         archwilio argaeledd Fy Iechyd Ar-lein pan fo meddygfeydd yn uno; a

·         sicrhau bod y Pwyllgor yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y broses o gaffael systemau gwybodeg meddygon teulu ar ôl canslo'r contract yn ddiweddar.

 

(14.40 - 15.55)

4.

Rheoli gwastraff: Sesiwn dystiolaeth gyda Chyfoeth Naturiol Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-27-19 Papur 3 – Cyfoeth Naturiol Cymru

 

Becky Favager - Rheolwr Polisi a Dull Rheoleiddio, Adnoddau Naturiol Cymru

John Fry - Cynghorydd Arbenigol Arweiniol, Polisi Gwastraff, Adnoddau Naturiol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru fel rhan o'i ymchwiliad i Reoli Gwastraff.

4.2 Cytunodd Becky Favager i ymchwilio i'r mater a godwyd ynghylch technoleg fodiwlaidd wasgaredig a sut y gellir defnyddio hydrogen fel ffynhonnell ynni ar gyfer cerbydau trydan.

 

(15.55)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitemau 6, 7 & 8

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.55 - 16.05)

6.

Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(16.05 - 16.15)

7.

Rheoli gwastraff: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

 

(16.15-16.30)

8.

Craffu ar Gyfrifon 2018-19: Trafod y wybodaeth ychwanegol gan Gomisiwn y Cynulliad

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Gomisiwn y Cynulliad fel rhan o’r gwaith o benderfynu pa eitemau i'w cynnwys yn adroddiad y Pwyllgor.