Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/10/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
|
(13.15) |
Papur(au) i'w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Nodwyd
y papurau. 2.2
Cytunodd y Pwyllgor y byddai’r Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn
gofyn am eglurhad ynghylch nifer o faterion yn y llythyr ar oruchwyliaeth
reoleiddio ar Gymdeithasau Tai. 2.3 Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r Cadeirydd yn
ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion
Gwledig ynglŷn â chyhoeddi’r Adroddiad ar Dlodi Tanwydd, ac at Gadeirydd y
Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ynghylch Adroddiad y 'drws
blaen' i ofal cymdeithasol i oedolion. 2.4 Gofynnodd y Pwyllgor am sesiwn friffio fanwl ar y
Tueddiadau o ran Gwariant Cyhoeddus. |
|
Ymchwiliad i oruchwyliaeth reoleiddiol ar Gymdeithasau Tai: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (3 Hydref 2019) |
||
Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Y 'drws blaen' i ofal cymdeithasol i oedolion Adroddiad
Archwilydd Cyffredinol Cymru: Y
‘drws blaen’ i ofal cymdeithasol i oedolion |
||
Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Tlodi Tanwydd Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Tlodi
Tanwydd |
||
Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Adolygiad o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Adroddiad
Archwilydd Cyffredinol Cymru: Adolygiad
o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus |
||
Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Tueddiadau o ran Gwariant Cyhoeddus yng Nghymru rhwng 1999-00 a 2017-18 Adroddiad
Archwilydd Cyffredinol Cymru - Tueddiadau
o ran gwariant cyhoeddus yng Nghymru rhwng 1999-00 a 2017-18 |
||
(13.20 - 14.50) |
Craffu ar Gyfrifon 2018-19: Llywodraeth Cymru Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-26-19
Papur 1 – Cyfrifon
Cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 Shan
Morgan – Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru Andrew Slade -
Cyfarwyddwr Cyffredinol Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru Peter Ryland - Prif
Weithredwr, WEFO Gawain Evans -
Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth
Cymru David Richards - Cyfarwyddwr Moeseg a Llywodraethu, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1
Cynhaliodd y Pwyllgor yr ail sesiwn graffu gyda'r Ysgrifennydd Parhaol ar
Gyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19. 3.2
Gofynnodd y Cadeirydd ar beth y bydd y benthyciad o £21.2 miliwn yn cael ei
wario ym Maes Awyr Caerdydd ynghyd ag amserlen ad-dalu, yn sgil y datganiad
ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn gynharach heddiw. Cytunodd
Andrew Slade i ysgrifennu gyda manylion pellach. 3.3
Cytunodd yr Ysgrifennydd Parhaol y byddai'n: ·
Rhoi’r
wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor am y trafodaethau dwyochrog a drefnwyd ar
gyfer mis Tachwedd ynghylch Cyfrifon Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu
Gwledig; ·
Rhoi rhagor
o wybodaeth am raddfa'r golled yn 2018-19 ynghylch stociau cyffuriau sydd wedi
dod i ben ac archwilio i a allai’r cyffuriau fod wedi cael eu defnyddio yn
rhywle arall cyn i’w dyddiad ddod i ben, gan gynnwys pam mae’r ffigurau ar
gyfer cyffuriau a ddilëwyd yn uwch na ffigurau’r blynyddoedd blaenorol; ·
Anfon
rhagor o fanylion ynglŷn â grant nofio am ddim Llywodraeth Cymru i bobl
dros 60 oed; ·
Anfon ragor
o wybodaeth unwaith y bydd yr adroddiad o'r gwerthusiad o'r peilot cyllido
hyblyg wedi'i lunio; ac ·
Egluro pam
mai 41 y cant yn unig o'r cyllid a ddyrannwyd i'r Cynllun Datblygu Gwledig a
gafodd ei wario, fel yr oedd ym mis Awst 2019. |
|
(14.50) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Eitem 5 Cofnodion: 4.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(14.50 - 15.15) |
Craffu ar Gyfrifon 2018-19: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law. Cofnodion: 5.1
Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law. |