Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/10/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
(13.15) |
Papur(au) i'w nodi Cofnodion: 2.1
Ystyriodd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru a'i nodi, gan gytuno i ofyn am
wybodaeth gynhwysfawr am y cynnydd a wneir yn erbyn yr argymhellion ym mis
Gorffennaf 2020. |
|
Gwasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor PAC(5)-24-19 Papur 1 – Ymateb Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: |
||
(13.15 - 14.45) |
Craffu ar Gyfrifon 2018-19: Llywodraeth Cymru - Craffu cyffredinol ar gyfrifon Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-24-19
Papur 2 – Cyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 PAC(5)-24-19 Papur 3 – Argymhellion a gynhwyswyd yn
Adroddiad y Pwyllgor ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2017-18 PAC(5)-24-19 Papur 4 – Llythyr oddi wrth yr Ysgrifennydd
Parhaol at Swyddogion Cyfrifyddu Cyrff Hyd Braich Llywodraeth Cymru a
Chomisiynwyr Cymru (16 Medi 2019) PAC(5)-24-19 Papur 5 – Llythyr gan yr Ysgrifennydd
Parhaol – Y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymateb i’r argymhellion (27 Medi 2019) Shan
Morgan – Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru Gawain Evans - Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru Peter Kennedy - Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol,
Llywodraeth Cymru David Richards - Cyfarwyddwr Moeseg a Llywodraethu,
Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Cafodd
y Pwyllgor dystiolaeth gan Shan Morgan - Ysgrifennydd Parhaol, Gawain Evans -
Cyfarwyddwr Cyllid, Peter Kennedy - Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, a David
Richards - Cyfarwyddwr Moeseg a Llywodraethu, Llywodraeth Cymru ar y craffu ar
Gyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru 2018-19. 2.2
Cytunodd yr Ysgrifennydd Parhaol y byddai'n: ·
Anfon nodyn ynghylch gallu Cyfarwyddwyr Anweithredol
Llywodraeth Cymru i ymgymryd â rolau sy'n ychwanegol at eu amodau cytunedig; ·
Hysbysu'r Pwyllgor o daliadau ychwanegol a wnaed i
Gyfarwyddwyr Anweithredol ym mlwyddyn ariannol 2018-19; ·
Darparu mwy o wybodaeth am fenthyciadau a buddsoddiadau a
ddyfarnwyd yn ystod blwyddyn ariannol 2018-19; ac ·
Anfon nodyn ar y tanwariant a ddigwyddodd yn y gyllideb
gyfalaf ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr. |
|
(14.45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. Cofnodion: 4.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(14.45 - 15.15) |
Craffu ar Gyfrifon: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 5.1
Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law. |