Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Amseriad disgwyliedig: Cyfarfod preifat
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.15) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor. 1.2
Cafwyd
ymddiheuriadau gan Vikki Howells AC, Neil Hamilton AC ac Adam Price AC. Nid
oedd dirprwyon. |
|
(13.15) |
Papur(au) i'w nodi Cofnodion: 2.1 Nodwyd
y papurau. |
|
Y Rhaglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (28 Chwefror 2019) Dogfennau ategol: |
||
Addasiadau Tai: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (1 Mawrth 2019) Dogfennau ategol: |
||
Plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (5 Mawrth 2019) Dogfennau ategol: |
||
Perthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (14 Mawrth 2019) Dogfennau ategol: |
||
Rheoli apwyntiadau dilynol cleifion allanol ar draws Cymru: Gwybodaeth ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (13 Mawrth 2019) Dogfennau ategol: |
||
Craffu ar Gyfrifon 2016-17: Gwybodaeth ychwanegol gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru (18 Mawrth 2019) Dogfennau ategol: |
||
(13.30 - 14.00) |
Craffu ar Gyfrifon: Papur briffio gan Lywodraeth Cymru Gawain Evans - Cyfarwyddwr Cyllid, Lywodraeth Cymru Chris Munday - Dirprwy Gyfarwyddwr Atebion Busnes, Lywodraeth Cymru Cofnodion: 3.1 Cafodd
yr aelodau bapur briffio gan swyddogion Llywodraeth Cymru ar warantau ac
atebolrwydd amodol fel y'u cofnodwyd yn Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon
Llywodraeth Cymru 2017-18. |
|
(14.00 - 14.30) |
Rheoli Ariannol a Llywodraethu mewn Cynghorau Cymuned: Papur briffio gan Swyddfa Archwilio Cymru Papurau
briffio PAC(5)-09-19
Papur 1 - Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru - Trefniadau Archwilio Mewnol
Cynghorau Tref a Chymuned yng Nghymru (Ionawr 2019) PAC(5)-09-19
Papur 2 - Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru - Rheoli Ariannol a
Llywodraethu – Cynghorau Cymuned a Thref 2017-18 (Ionawr 2019) PAC(5)-09-19
Papur 3 - Papur Trafod Archwilydd Cyffredinol Cymru: Chwe thema er mwyn helpu i
wneud craffu yn ‘Barod at y Dyfodol’ (Chwefror 2019) PAC(5)-09-19 Papur 4 - Llythyr gan Anthony Barrett,
Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol, Swyddfa Archwilio Cymru, yn amlinellu
newidiadau i weithdrefnau archwilio ar gyfer y sector cyhoeddus (21 Chwefror
2019) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Cafodd
yr Aelodau eu briffio gan Swyddfa Archwilio Cymru ar Adroddiadau’r Archwilydd
Cyffredinol ar Gynghorau Tref a Chymuned. 4.2
Cytunwyd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ynghylch
canfyddiadau Archwilydd Cyffredinol Cymru, a bydd hefyd yn ysgrifennu at
Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn rhoi gwybod
iddynt am y papur trafod. |
|
(14.30 - 14.45) |
Caffael Cyhoeddus: Ystyried y llythyr drafft PAC(5)-09-19
Papur 5 – Llythyr oddi wrth Llywodraeth Cymru (13 Mawrth 2019) PAC(5)-09-19
Papur 6 – Llythyr drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1
Trafododd yr Aelodau y llythyr drafft a chytunwyd arno, yn amodol ar weld yr
ohebiaeth a oedd yn codi pryder ynghylch cydymffurfio â Rheoliadau Contractau
Cyhoeddus 2015. |
|
(14.45 - 15.15) |
Adolygiad Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Gwersi a Ddysgwyd: Trafod materion allweddol PAC(5)-09-19 Papur 7 – Gwybodaeth
ychwanegol gan Fwrdd lechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr PAC(5)-09-19 Papur 8 – Llythyr gan Brif Swyddog Cyngor
Iechyd Cymuned Gogledd Cymru (14 Mawrth 2019) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1
Trafododd yr Aelodau y materion allweddol a godwyd drwy gydol yr ymchwiliad a
chytuno ar feysydd i'w cynnwys yn Adroddiad y Pwyllgor. |
|
(15.15 - 15.35) |
Rheoli apwyntiadau dilynol cleifion allanol ar draws Cymru: Trafod materion allweddol Cofnodion: 7.1
Trafododd yr Aelodau’r meysydd yr oeddent am eu cynnwys yn y papur briffio ar
gyfer y sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru ym mis Ebrill. |
|
(15.35 - 15.55) |
Gwasanaeth gofal sylfaenol y tu allan i oriau: Trafod materion allweddol Cofnodion: 8.1
Trafododd yr Aelodau y meysydd yr oeddent am eu cynnwys yn y papur briffio ar
gyfer y sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru ym mis Ebrill. |
|
(15.55 - 16.15) |
Blaenraglen Waith: Trafod y flaenraglen waith ar gyfer tymor yr haf 2019 PAC(5)-09-19
Papur 9 – Rhaglen waith ddrafft PAC(5)-09-19
Papur 10 - Llythyr oddi wrth Archwilydd Cyffredinol Cymru: Ymgynghoriad
ynghylch rhaglen waith dair-blynedd i’r dyfodol (7 Mawrth 2019) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 9.1
Trafododd yr Aelodau Flaenraglen Waith y Pwyllgor ar gyfer tymor yr haf 2019 a
chytunwyd arni. |