Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/03/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr aelodau i'r Pwyllgor.

 

(13.15 - 13.20)

2.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papur.

 

2.1

Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (20 Chwefror 2019)

Dogfennau ategol:

(13.20 - 14.50)

3.

Rheoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru: Sesiwn dystiolaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-07-19 Papur 1 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

 

Len Richards – Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Steve Curry - Prif Swyddog Gweithredu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Caroline Bird - Dirprwy Brif Swyddog Gweithredu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd yr aelodau dystiolaeth gan Len Richards, Prif Weithredwr, Steve Curry, Prif Swyddog Gweithredu, a Caroline Bird, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro fel rhan o'r ymchwiliad i reoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru.

3.2 Cytunodd Len Richards i anfon rhagor o wybodaeth am y canlynol:

·         Canlyniadau'r gwaith archwilio mewnol/clinigol diweddar a wnaed ynghylch apwyntiadau dilynol cleifion allanol;

·         Cadarnhad a fydd yr holl optometryddion a leolir yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro yn gallu atgyfeirio cleifion ar gyfer apwyntiad ymgynghorydd yn electronig pan gaiff y system ei chyflwyno yn ystod chwarter cyntaf blwyddyn ariannol 2019-20;

·         Nifer y cleifion y tu allan i'r ardal sy'n aros am atgyfeiriad claf allanol ar hyn o bryd, ynghyd â dadansoddiad o'r meysydd gwasanaeth.

 

 

 

 

(15.00 - 16.30)

4.

Rheoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru: Sesiwn dystiolaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

PAC(5)-07-19 Papur 2 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

 

Judith Paget, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Dr Paul Buss, Cyfarwyddwr Meddygol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Claire Birchall, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cafodd yr aelodau dystiolaeth gan Judith Paget, Prif Weithredwr, Dr Paul Buss, Cyfarwyddwr Meddygol, a Claire Birchall, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan fel rhan o'r ymchwiliad i reoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru.

4.2 Cytunodd Judith Paget i anfon rhagor o wybodaeth am hyd y cyfnod roedd y system deledermatolegol wedi bod yn weithredol.

 

(16.30)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

Eitemau 6 & 7

 

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(16.30 - 16.45)

6.

Rheoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru: Trafod y dystiolaeth a gafwyd

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr aelodau'r dystiolaeth a gafwyd.

 

(16.45 - 17.00)

7.

Gwariant ar staff asiantaeth gan GIG Cymru: Gohebiaeth y Pwyllgor

PAC(5)-07-19 PTN2 – Llythyr oddi wrth Cadeirydd y Pwyllgor i Dr Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon (7 Chwefror 2019)

PAC(5)-07-19 PTN3 – Llythyr oddi wrth Dr Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i Gadeirydd y Pwyllgor (12 Chwefror 2019)

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Nododd yr aelodau'r ohebiaeth. Cytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr GIG Cymru, yn gofyn am ei farn am Adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, ynghyd â'r gwariant ar staff asiantaeth a nodwyd yn Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2018-19 y Bwrdd Iechyd, a thrafod y mater eto yn nhymor yr hydref.