Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/02/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.45)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r Pwyllgor.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Jenny Rathbone AC.

 

(13.45)

2.

Papur(au) i’w nodi

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papurau.

 

2.1

Archwiliad o Berthynas Gytundebol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ag RKC Associates Ltd a’i Berchennog: llythyr gan Maria Battle, Cadeirydd y Bwrdd (6 Chwefror 2019)

Dogfennau ategol:

(13.50 - 15.20)

3.

Caffael Cyhoeddus – Y Camau Nesaf: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-05-19 Papur 1 – Papur Llywodraeth Cymru ar yr Adolygiad o’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru

PAC(5)-05-19 Papur 2 - Ymateb gan Gomisiynydd Cenedlaethaur Dyfodol Cymru

PAC(5)-05-19 Papur 3 – Ymateb gan Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

PAC(5)-05-19 Papur 4 – Ymateb gan Dr Jane Lynch Prifysgol Caerdydd

PAC(5)-05-19 Papur 5 – Ymateb gan Gymedeithas Llywodraeth Leol Cymru

PAC(5)-05-19 Papur 6 – Ymateb gan Gonsortiwm Pwrcasu Addysg Uwch Cymru HEPCW

PAC(5)-05-19 Papur 7 – Ymateb gan Cyngor Caerdydd

 

Andrew Slade – Cyfarwyddwr Cyffredinol, Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, Llywodraeth Cymru

Marion Stapleton – Dirprwy Gyfarwyddwr, Tîm Strategaeth Gwasanaethau Trawsbynciol, Llywodraeth Cymru

Jonathan Hopkins -  Dirprwy Gyfarwyddwr Masnachol a Chaffael, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol Grŵp yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol; Marion Stapleton, Dirprwy Gyfarwyddwr y Tîm Strategaeth Gwasanaethau Trawsbynciol, a Jonathan Hopkins, Dirprwy Gyfarwyddwr Masnachol a Chaffael Llywodraeth Cymru fel rhan o’u hymchwiliad i gaffael cyhoeddus.

3.2 Cytunodd Andrew Slade i roi gwybod i’r Pwyllgor am unrhyw gostau na ellir eu hadennill ar gyfer creu a chynnal y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, gan gynnwys yr holl gyngor a gafwyd a’r buddsoddiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru, ynghyd â chostau TG a staff.

 

(15.20)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

Eitemau 5, 6 & 7

 

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.20 - 15.45)

5.

Caffael Cyhoeddus - Y Camau Nesaf: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau’r dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(15.45 - 16.30)

6.

Craffu ar Gyfrifon 2017-18: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(5)-05-19 Papur 8 – Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft, gan gytuno arno yn amodol ar nifer fach o ddiwygiadau a fydd yn cael eu rhannu drwy e-bost.

 

(16.30)

7.

Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Paratoi ar gyfer Brexit

PAC(5)-05-19 Papur 9 – Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Nododd yr Aelodau yr adroddiad, y disgwylir iddo gael ei gyhoeddi ar 19 Chwefror, gan nodi y bydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn ei drafod.