Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 28/01/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor a chroesawodd Vikki Howells AC yn ôl fel aelod o'r Pwyllgor. Diolchodd i Jack Sargeant AC am ei gyfraniadau.

 

(13.15)

2.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (7 Ionawr 2019)

Dogfennau ategol:

2.2

Craffu ar Gyfrifon 2017-18: Llythyr gan yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru (14 Ionawr 2019)

Dogfennau ategol:

2.3

Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (15 Ionawr 2019)

Dogfennau ategol:

(13.20-15.00)

3.

Adolygiad Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Yr Hyn a Ddysgwyd - Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-02-19 Papur 1 – Papur Lywodraeth Cymru

PAC(5)-02-19 Papur 2 - Llythyr gan Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (22 Ionawr 2019)

 

Dr Andrew Goodall – Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr GIG Cymru

Simon Dean - Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru

Jo Jordan - Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Llywodraethiant a Gwasanaethau Corfforaethol y GIG, Llywodraeth Cymru

Alan Brace - Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd Aelodau dystiolaeth gan Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru; Simon Dean, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru; Jo Jordan, Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Llywodraethu GIG a Gwasanaethau Corfforaethol; ac Alan Brace, Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru fel rhan o'r ymchwiliad i'r hyn a ddysgwyd o Adolygiad Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

3.2 Cytunodd Dr Goodall i anfon dadansoddiad o arolwg staff y bwrdd iechyd sy'n dangos lefel y gwelliant dros y tair blynedd diwethaf. Cytunodd hefyd i anfon manylion o arolygon staff byrddau iechyd eraill er mwyn rhoi darlun ar draws Cymru.

 

(15.10 - 15.25)

4.

Plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor

PAC(5)-02-19 Papur 3 – Ymateb Llywodraeth Cymru

PAC(5)-02-19 Papur 4 – Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar ymateb Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd yr Aelodau'r ymateb, gan gytuno y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurder ynghylch nifer o faterion.

 

(15.25 - 15.40)

5.

Cyfoeth Naturiol Cymru: Ymatebion i adroddiad y Pwyllgor

PAC(5)-02-19 Papur 5 – Ymateb Llywodraeth Cymru

PAC(5)-02-19 Papur 6 – Ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau'r ymatebion i'r adroddiad a nodwyd y trefnwyd i Gyfoeth Naturiol Cymru ddod i'r Pwyllgor ar 11 Chwefror.

 

(15.40)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

Eitemau 7 8 & 9

 

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.40 - 16.00)

7.

Adolygiad Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Yr Hyn a Ddysgwyd - Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

7.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(16.00 - 16.20)

8.

Perthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(5)-02-19 Papur 7 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd yr Aelodau ar yr adroddiad drafft. Cytunwyd y byddai fersiwn arall yn cael ei hanfon atynt ar gyfer eu cytundeb yn ddiweddarach yr wythnos hon.

8.2 Cytunodd yr Aelodau i gynnal dadl ar yr Adroddiad yn y Cyfarfod Llawn.

 

(16.20- 17.00)

9.

Craffu ar Gyfrifon 2017-18: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(5)-02-19 Papur 8 – Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Trafododd yr Aelodau'r adroddiad drafft ac, oherwydd cyfyngiadau amser, cytunwyd i ddychwelyd at y mater yn y cyfarfod nesaf.