Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Amseriad disgwyliedig: Cyfarfod preifat 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Yn absenoldeb Cadeirydd y Pwyllgor, cafodd Adam Price AC ei enwebu gan Rhianon Passmore AC i'w ethol fel Cadeirydd dros dro o dan Reolau Sefydlog 17.22 a 18.6. Cytunodd y Pwyllgor ac etholwyd Adam Price AC fel Cadeirydd dros dro yn absenoldeb Nick Ramsay AC.

1.2        Croesawodd y Cadeirydd dros dro yr Aelodau i'r cyfarfod Pwyllgor.

1.3        Cafwyd ymddiheuriadau gan Nick Ramsay AC a Jack Sargeant AC.

 

(13.30 - 13.35)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

2.2 Cytunwyd y byddai'r Clercod yn anfon Adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar Wasanaethau Llywodraeth Leol i Gymunedau Gwledig ymlaen at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig; Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

 

2.1

Gwasanaethau Llywodraeth Leol i Gymunedau: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

Dogfennau ategol:

2.2

Craffu ar Gyfrifon 2017-18: Gohebiaeth gan Gomisiwn y Cynulliad (20 Tachwedd 2018)

Dogfennau ategol:

(13.35 - 13.50)

3.

Rheoli apwyntiadau cleifion allanol ledled Cymru: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-31-18 Papur 1 – Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-31-18 Papur 2 – Ymateb gan Lywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Briffiodd yr Archwilydd Cyffredinol yr Aelodau ar yr adroddiad, sef rheoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru.

3.2 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad i'r mater hwn os na all y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon drefnu'r mater hwn yn ei raglen waith.

 

(13.50 - 14.05)

4.

Gwasanaethau radioleg – adroddiad cryno: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-31-18 Papur 3 – Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Briffiodd yr Archwilydd Cyffredinol yr Aelodau ar y gwasanaethau radioleg – adroddiad cryno cenedlaethol.

4.2 Nododd y Pwyllgor y llwybr cadarnhaol yn y maes hwn a chytunodd i ofyn am ddiweddariadau ysgrifenedig rheolaidd gan Lywodraeth Cymru sy'n nodi'r cynnydd wrth gyflawni'r cynllun gweithredu cenedlaethol.

 

(14.05 - 15.00)

5.

Blaenraglen waith – Gwanwyn 2019

PAC(5)-31-18 Papur 4 – Blaenraglen Waith

PAC(5)-31-18 Papur 5 – Gohebiaeth gan Darren Millar AC ynghylch ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd (6 Tachwedd 2018)

PAC(5)-31-18 Papur 6 – Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y wybodaeth ddiweddaraf am y mesurau arbennig ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (6 Tachwedd 2018)

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Nododd yr Aelodau Flaenraglen Waith y Pwyllgor ar gyfer tymor hydref 2018 a chytuno i wneud y canlynol:

·         Cynnal ymchwiliad i'r Fenter Twyll Genedlaethol;

·         Gwneud gwaith allgymorth fel rhan o'r ymchwiliad i Wasanaeth Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau;

·         Gofyn am ddiweddariad ar reoli iechyd meddwl ar ôl yr adolygiadau a gynhaliwyd i ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd ynghyd â diweddariad ar y system cymorth ac ymyriad ehangach a dargedir gan y llywodraeth sydd ar waith ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr;

·         Cynnal ymchwiliad i Gyllid Busnes yn nhymor haf 2019;

·         Cynnal ymchwiliad i drefniadau llywodraethu yn Llywodraeth Cymru yn nhymor haf 2019; a

·         Nodi y trefnir i'r Archwilydd Cyffredinol gyhoeddi adroddiad i gostau gweithwyr asiantaeth a locwm GIG Cymru yng ngwanwyn 2019 a, chan ddibynnu ar ganfyddiadau'r adroddiad, gynnal ymchwiliad.