Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/11/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(15.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

1.2              Cafwyd ymddiheuriadau gan Jack Sargeant AC.

 

(15.15 - 15.20)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

2.1

Cyfoeth Naturiol Cymru: Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2017-18 - Gohebiaeth gan Clare Pillman (17 Hydref 2018)

Dogfennau ategol:

(15.20 - 16.30)

3.

Perthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-29-18 Papur 1 - Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-29-18 Papur 2 - Llythyr gan Bethan Sayed AC, Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu

PAC(5)-29-18 Papur 3 – Papur gan Lywodraeth Cymru

 

Andrew Slade - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, Llywodraeth Cymru

Jason Thomas - Cyfarwyddwr Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Llywodraeth Cymru

Tim Howard - Dirprwy Gyfarwyddwr Eiddo, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth gan Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol; Jason Thomas, Cyfarwyddwr, Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, a Tim Howard, Dirprwy Gyfarwyddwr Eiddo, Llywodraeth Cymru fel rhan o'u hymchwiliad i berthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood.

 

3.2 Cytunodd Andrew Slade i wneud y canlynol:

·         Anfon nodyn yn esbonio cyfansoddiad y Gyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau o £42 miliwn

·         Rhoi ffigurau manwl holl refeniw Stiwdio Pinewood Cymru am y flwyddyn ariannol ddiwethaf pan fo'r sefyllfa olaf yn hysbys

·         Darparu amserlen ar gyfer adnewyddu arfaethedig y ffermdy rhestredig Gradd II ynghyd â'r holl gostau hyd yn hyn ar gynnal yr adeilad a chostau adnewyddu arfaethedig

 

(16.30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

Eitemau 5 & 6 ac Eitemau 1 a 2 y cyfarfod a gynhelir ar 12 Tachwedd 2018

 

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(16.30 - 16.45)

5.

Perthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood: Trafod y dystiolaeth a gafwyd

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law.

5.2 Cytunodd yr Aelodau i gyhoeddi eu canfyddiadau mewn adroddiad.

 

(16.45 - 17.00)

6.

Cyfoeth Naturiol Cymru: trafod yr adroddiad drafft

PAC(5)-29-18 Papur 4 – Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau un rhan o'r adroddiad unwaith eto ac, ar ōl ystyriaeth, bydd y Clercod yn newid geiriad a chylchredeg fersiwn ddiwygiedig trwy e-bost i'w gytuno.