Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/10/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1.      Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor. 

1.2.      Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC ac Adam Price AC. Ni chafwyd dirprwyon.

(13.15 - 13.25)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

2.1

Llywodraeth Cymru yn Ariannu Kancoat Ltd: Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru (6 Medi 2018)

Dogfennau ategol:

2.2

Craffu ar Gyfrifon 2016-17: Craffu ar Gyfrifon Llyfrgell Genedlaethol Cymru (6 Medi 2018)

Dogfennau ategol:

2.3

Ymchwiliad i drefn reoleiddio Cymdeithasau Tai: Diweddariad gan Lywodraeth Cymru (20 Medi 2018)

Dogfennau ategol:

2.4

Perthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood: Gohebiaeth gan Bethan Sayed AC, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu (28 Medi 2018)

Dogfennau ategol:

(13.25 - 13.35)

3.

Addasiadau tai: ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor

PAC(5)-26-18 Papur 1 – Ymateb Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd yr Aelodau yr ymateb a chytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn gofyn am ddiweddariad pellach am weithredu'r argymhellion yn ystod gwanwyn 2019.

(13.35 - 13.50)

4.

Caffael Cyhoeddus yng Nghymru a’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-26-18 Papur 2 – Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid (5 Medi 2018)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd yr Aelodau y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a chytunwyd i gynnal sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru yn ddiweddarach y tymor hwn.

(13.50 - 14.50)

5.

Craffu ar Gyfrifon 2017-18: Comisiwn y Cynulliad

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-26-18 Papur 3 - Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2017-18

 

Manon Antoniazzi - Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad

Nia Morgan - Cyfarwyddwr Cyllid, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Suzy Davies AC - Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros y Gyllideb a Llywodraethu

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Craffodd yr Aelodau ar waith Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad, Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a Suzy Davies AC, y Comisiynydd sy'n gyfrifol am y Gyllideb a Llywodraethu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Comisiwn y Cynulliad 2017-18.

5.2 Cytunodd Manon Antoniazzi i ysgrifennu at y Cadeirydd gyda barn Comisiwn y Cynulliad unwaith y bydd wedi ystyried y papur yn ei gyfarfod ym mis Tachwedd ynghylch Dangosyddion Perfformiad Allweddol y contract newydd ar gyfer caffael.

 

(15.00 - 16.15)

6.

Craffu ar Gyfrifon 2017-18: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-26-18 Papur 4 - Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2017-18

PAC(5)-26-18 Papur 5 - Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru – Diweddariad ar argymhellion y Pwyllgor ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2013-14

 

 

Nick Bennet – Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Katrin Shaw - Cyfarwyddwr Polisi, Cyfreithiol a Llywodraethu, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

David Meaden -  Cyfrifydd Ariannol, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Craffodd yr Aelodau ar waith Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Katrin Shaw, Cyfarwyddwr Polisi, Cyfreithiol a Llywodraethu a David Meaden, Cyfrifydd Ariannol, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2017-18 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

(16.15)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

Eitem 8

 

Cofnodion:

7.1 Derbyniwyd y cynnig.

(16.15 - 16.30)

8.

Craffu ar Gyfrifon 2017-18: trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

8.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.