Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 09/07/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(14.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

1.2       Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC, Rhianon Passmore AC ac Adam Price AC. Nid oedd dirprwyon yn bresennol ar eu rhan.

 

(14.00 - 14.05)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papurau.

2.2 Cytunodd y Cadeirydd i ymateb i Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurhad ynghylch yr ymrwymiad y cytunwyd arno y byddent yn cyhoeddi manylion y cymhorthdal ​​fesul teithiwr bob blwyddyn ochr yn ochr â niferoedd y teithwyr.

 

2.1

Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru: Llythyr gan Steve Ham, Prif Weithredwr, Ymddiriedolaeth GIG Felindre (28 Mehefin 2018)

Dogfennau ategol:

2.2

Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru – Caerdydd i Ynys Môn: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (3 Gorffennaf 2018)

Dogfennau ategol:

(14.05 - 14.20)

3.

Cyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor

PAC(5)-19-18 Papur 1 – Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd yr Aelodau yr ymateb, gan gytuno y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurder ynghylch nifer o faterion.

 

(14.20 - 15.30)

4.

Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Sesiwn dystiolaeth 2

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Tracy Myhill - Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Sian Harrop-Griffiths - Cyfarwyddwr Strategaeth, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Lynne Hamilton - Cyfarwyddwr Cyllid, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan Tracy Myhill, Prif Weithredwr;

Sian Harrop-Griffiths, Cyfarwyddwr Strategaeth; a Lynne Hamilton, Cyfarwyddwr Cyllid o Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg fel rhan o'r ymchwiliad i weithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014.

4.2 Cytunodd Tracy Myhill i:

·       siarad â Chadeirydd y Bwrdd ynghylch y pecyn taliadau a gafodd y cyn Brif Weithredwr pan adawodd y Bwrdd Iechyd a rhoi gwybod i'r Cadeirydd am y drafodaeth hon; a

·       rhannu rhai o gynlluniau digidol y Bwrdd Iechyd â'r Pwyllgor.

 

(15.40 - 16.45)

5.

Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Sesiwn dystiolaeth 3

Len Richards - Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Bob Chadwick – Cyfarwyddwr Cyllid, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan Len Richards, Prif Weithredwr, a Bob Chadwick, Cyfarwyddwr Cyllid, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro fel rhan o'r ymchwiliad i weithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014.

5.2 Cytunodd Len Richards i gadarnhau a ddarparodd y Bwrdd Iechyd ddatganiad o effaith y diffoddiad ym mis Ionawr 2018 ac i roi gwybod i'r Pwyllgor am hyn mewn nodyn.

 

(16.45)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

Eitem 7 a’r cyfarfod ar 17 Gorffennaf 2018

 

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(16.45 - 17.00)

7.

Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

7.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.