Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 26/02/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(14.15 - 14.45)

1.

Rheoli meddyginiaethau: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(5)-06-18 Papur 1 – Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft. Yn sgil cyfyngiadau amser, cytunodd yr Aelodau i ddychwelyd at y mater hwn yng nghyfarfod y Pwyllgor wythnos nesaf.

 

(15.00)

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC ac Adam Price AC.

 

(15.00 - 15.10)

3.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y papurau eu nodi.

3.2 O ran y papurau a gafodd eu nodi, cytunwyd ar y camau penodol a ganlyn:

·       Cynnal sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru ynghylch yr adolygiad o'r gwasanaeth awyr oddi mewn i Gymru rhwng Caerdydd ac Ynys Môn;

·       Ysgrifennu at Gyfarwyddwr yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol yn gofyn am ragor o eglurder ynghylch y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru â gwasanaeth digidol Llywodraeth y DU;

·       Ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a Chadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ynghylch elfennau codio'r rhaglen Hwb.

 

3.1

Y Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru – Caerdydd i Ynys Môn: Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth (30 Ionawr 2018)

Dogfennau ategol:

3.2

Maes Awyr Caerdydd: Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru (2 Chwefror 2018)

Dogfennau ategol:

3.3

Sesiwn gychwynnol: Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru (31 Ionawr 2018)

Dogfennau ategol:

3.4

Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru: Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru (8 Chwefror 2018)

Dogfennau ategol:

3.5

Arferion a gweithdrefnau gwaith y Pwyllgor: Gohebiaeth rhwng y Pwyllgor a Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

(15.10 - 16.30)

4.

Plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal: Sesiwn dystiolaeth 6

Briff Ymchwil

PAC(5)-06-18 Papur 2 – Ymateb Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i'r ymgynghoriad

 

Y Cynghorydd Huw David - Llefarydd CLlLC dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol (ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr)

Y Cynghorydd Geraint Hopkins, Dirprwy Llefarydd CLlLC dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (ac Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf)

Stewart Blythe, Swyddog Polisi CLlLC (Iechyd a Gofal Cymdeithasol)

 

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Fel rhan o'u hymchwiliad i blant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal, clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan y Cynghorydd Huw David, Llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol (ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr); y Cynghorydd Geraint Hopkins, Dirprwy Lefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (ac Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf); a Naomi Alleyne, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

4.2 Cytunodd y tystion i anfon gwybodaeth ychwanegol mewn perthynas â nifer o bwyntiau i gynorthwyo'r Pwyllgor gyda'i ymchwiliad.

 

(16.30)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitem 6

 

Cofnodion:

5.1 Diwygiwyd y cynnig i gynnwys Eitem 1 o'r cyfarfod a gynhelir ar 5 Mawrth 2018, a chytunwyd arno.

 

(16.30 - 17.00)

6.

Plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.