Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/12/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(14.45 - 15.15) |
Cyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru: Gohebiaeth gyda Llywodraeth Cymru PAC(5)-31-17 Papur 1– Llythyr gan Gadeirydd at Lywodraeth
Cymru PAC(5)-31-17 Papur 2 – Llythyr gan Lywodraeth Cymru PAC(5)-31-17 Papur 3 – Gohebiaeth flaenorol a drafodwyd
yn y yfarfod ar 2 Hydref 2017 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 1.1 Bu'r Aelodau'n ystyried ac yn trafod yr
ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru. 1.2 Cytunodd yr Aelodau y bydd y Cadeirydd yn
ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Parhaol gyda'u pryderon ac yn cynghori y gallent
fod am gymryd tystiolaeth lafar ganddi. |
|
(15.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 2.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor. 2.1 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Vikki Howells AC. Ni chafwyd dirprwy ar ei rhan. |
|
(15.30 - 15.35) |
Papur(au) i'w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Cafodd
y papurau eu nodi. |
|
(15.35 - 16.30) |
Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-31-17
Papur 4 – Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru Dr Andrew
Goodall - Cyfarwyddwr Cyffredinol a Phrif Weithredwr GIG Cymru Frances
Duffy - Cyfarwyddwr, Gofal Sylfaenol ac Arloesi, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Bu'r
Pwyllgor yn craffu ar waith Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol/Prif
Weithredwr y GIG a Frances Duffy, Cyfarwyddwr, Gofal Sylfaenol ac Arloesedd,
Llywodraeth Cymru ar weithredu'r argymhellion a gododd o adroddiadau'r Pwyllgor
blaenorol a'r Pwyllgor hwn ar arlwyo a maeth cleifion mewn ysbytai. 4.2
Cytunodd Dr Goodall i anfon rhagor o wybodaeth am y llinellau amser ar gyfer
cyflwyno'r system genedlaethol ar gyfer gofal cymdeithasol (WCCIS) a system
arlwyo Cymru Gyfan. |
|
(16.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Eitem 7 Cofnodion: 5.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(16.30 - 16.45) |
Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 6.1
Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunwyd i ailedrych arni
pan gyhoeddir adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar Wasanaethau Gwybodeg GIG
Cymru, y bwriedir gwneud hynny ym mis Ionawr 2018. |