Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 27/11/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(14.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Lee Waters AC. Nid oedd neb yn dirprwyo ar ei ran. |
|
(14.00 - 14.05) |
Papur(au) i'w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Nodwyd y papurau. 2.2 O ran heriau digidoleiddio, roedd yr Aelodau'n cytuno y dylai’r
Cadeirydd ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau gan
amgáu copi o lythyr yr Ysgrifennydd Parhaol gan argymell bod y Pwyllgor yn
holi’r Gweinidog ymhellach ynglŷn â’r mater. Cytunodd yr Aelodau hefyd i
gynnal sesiwn ragarweiniol yn y flwyddyn newydd gyda Chyfarwyddwr Cyffredinol
newydd Llywodraeth Cymru. |
|
Craffu ar Gyfrifon 2016-17: Gwybodaeth ychwanegol gan Chwaraeon Cymru (14 Tachwedd 2017) Dogfennau ategol: |
||
Craffu ar Gyfrifon 2016-17: Gwybodaeth ychwanegol gan Gyngor Celfyddydau Cymru (17 Tachwedd 2017) Dogfennau ategol: |
||
Craffu ar Gyfrifon 2016-17: Gwybodaeth ychwanegol gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru (20 Tachwedd 2017) Dogfennau ategol: |
||
Heriau digidoleiddio: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Gymru (17 Tachwedd 2017) Dogfennau ategol: |
||
Penodi Cyfarwyddwyr Cyffredinol Llywodraeth Cymru: Llythyr gan Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru (21 Tachwedd 2017) Dogfennau ategol: |
||
(14.05 - 14.15) |
Maes Awyr Caerdydd: y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru PAC(5)-30-17 Papur 1 – Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Nododd yr Aelodau y wybodaeth a chytunwyd i ysgrifennu at Lywodraeth
Cymru yn amlygu pryderon ynghylch yr amser a gymerwyd i benodi aelod allanol i
fwrdd Holdco gan ofyn am esboniad am yr oedi. |
|
(14.15 - 15.30) |
Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru: Sesiwn dystiolaeth 2 Brîff y
Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-30-17
Papur 2 - Papur gan Gymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru Naomi Alleyne –
Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai, Cymdeithas Llywodraeth Leol
Cymru Elke Winton –
Rheolwr Grŵp - Tai, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen Nigel Stannard –
Rheolwr y Rhaglen Cefnogi Pobl, Cyngor Dinas Casnewydd (a Chadeirydd Rhwydwaith
Gwybodaeth y Rhaglen Cefnogi Pobl) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Naomi Alleyne, Cyfarwyddwr
Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; Elke
Winton, Rheolwr Grŵp Tai, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen; a Nigel
Stannard, Rheolwr Rhaglen Cefnogi Pobl, Cyngor Dinas Casnewydd (a Chadeirydd y
Rhwydwaith Gwybodaeth Cefnogi Pobl) fel rhan o'i ymchwiliad i Raglen Cefnogi
Pobl Llywodraeth Cymru. |
|
(15.40 - 16.40) |
Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru: Sesiwn dystiolaeth 3 PAC(5)-30-17 Papur 3 - Papur
gan Bwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Gwent Sam Lewis –
Is-gadeirydd, Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Gwent Angela Lee – Cydgysylltydd
Datblygiad Rhanbarthol, Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Gwent Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Sam Lewis, Is-gadeirydd Pwyllgor
Cydweithredol Rhanbarthol Gwent ac Angela Lee, Cydlynydd Datblygu Rhanbarthol,
Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Gwent fel rhan o'i ymchwiliad i Raglen
Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru. 5.2 Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am ddadansoddiad o'r costau gweinyddol sy'n
gysylltiedig â’r Rhaglen Cefnogi Pobl a'r grantiau eraill gan Lywodraeth Cymru
sy'n cael eu hystyried ar gyfer y prosiect cyllido hyblyg. |
|
(16.40) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Eitem 7 & 8 o’r cyfarfod heddiw ac Eitemau 1 a 2 o gyfarfod 4 Rhagfyr
2017 Cofnodion: 6.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(16.40 - 16.50) |
Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 7.1 Trafododd yr Aelodau’r dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(16.50 - 17.00) |
Blaenraglen waith – Gwanwyn 2018 PAC(5)-30-17 Papur 4 - Blaenraglen Waith Gwanwyn 2018 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Nododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer tymor y gwanwyn. |