Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/11/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(14.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

1.2       Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AC a Lee Waters AC. Ni chafwyd dirprwyon.

1.3       Talodd y Cadeirydd deyrnged i'r diweddar Carl Sargeant AC.

 

(14.00 - 14.10)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am eglurhad pellach gan Lywodraeth Cymru o'r gyllid yn ystod y flwyddyn ar gyfer byrddau iechyd a chanfyddiadau adolygiad Deloitte o faterion llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda fel rhan o Ddeddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014. O ran Cyflogau Uwch-reolwyr, nododd y Pwyllgor y byddai'r Archwilydd Cyffredinol yn adrodd yn ôl ar ôl trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru.

 

2.1

Rheoli meddyginiaethau: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Gymru (30 Hydref 2017)

Dogfennau ategol:

2.2

Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru (6 Tachwedd 2017)

Dogfennau ategol:

2.3

Cyflogau Uwch-reolwyr: Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru (8 Tachwedd 2017)

Dogfennau ategol:

(14.10 - 15:30)

3.

Y Rhaglen Cefnogi Pobl gan Lywodraeth Cymru: Sesiwn dystiolaeth 1

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-29-17 Papur 1 – Papur atodol gan Tai Cymunedol Cymru

PAC(5)-29-17 Papur 2 – Papur atodol gan Cymorth Cymru

 

Stuart Ropke – Prif Weithredwr, Tai Cymunedol Cymru

Enid Roberts – Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Cwsmeriaid a Chymunedau, Cartrefi Cymunedol Gwynedd

Katie Dalton – Cyfarwyddwr, Cymorth Cymru

Rhian Stone – Cyfarwyddwr Gofal a Chefnogaeth Grŵp POBL a Chyfarwyddwr Cymorth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Stuart Ropke, Prif Weithredwr, Cartrefi Cymunedol Cymru; Enid Roberts, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Cwsmeriaid a Chymunedau, Cartrefi Cymunedol Gwynedd; Katie Dalton, Cyfarwyddwr, Cymorth Cymru a Rhian Stone, Cyfarwyddwr Gofal a Chymorth yn Grŵp POBL a Chadeirydd Cymorth Cymru fel rhan o'i ymchwiliad i'r Rhaglen Cefnogi Pobl gan Lywodraeth Cymru.

 

(15.30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitem 5

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.30 - 16.00)

5.

Y Rhaglen Cefnogi Pobl gan Lywodraeth Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid gyda'r pryderon a fynegwyd ynghylch y syniad arfaethedig o roi gorau i neilltuo cyllideb y Rhaglen Cefnogi Pobl a'r effaith y gallai hyn ei chael ar yr aelodau o'r gymdeithas sy'n agored i niwed.

5.2 Nododd yr Aelodau fod yr Archwilydd Cyffredinol yn rhagweld cyhoeddi adroddiad ar sut y mae llywodraeth leol yn rheoli'r galw am wasanaethau digartrefedd yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd y gellid ei ystyried fel rhan o'r ymchwiliad hwn.