Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Amseriad disgwyliedig: Lleoliad Allanol 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 486KB) Gweld fel HTML (297KB)

 

(14.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd Aelodau'r Pwyllgor i'r cyfarfod, a gynhaliwyd yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro. Rhoddodd y Cadeirydd ddiolch i staff y coleg am eu cymorth wrth hwyluso'r cyfarfod.

1.2       Croesawodd y Cadeirydd Vikki Howells AC i'r Pwyllgor.

1.3       Ni chafwyd ymddiheuriadau.

1.4       Datganodd Neil McEvoy AC fuddiant gan ei fod wedi cael ei gyflogi yn y sector addysg bellach.

 

(14.15 - 14.20)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papurau.

 

(14.20 - 15.20)

3.

Trosolwg Llywodraeth Cymru o gyllid a darpariaeth colegau addysg bellach: Sesiwn dystiolaeth 1

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-19-17 P1 – Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Trosolwg Llywodraeth Cymru o gyllid a darpariaeth colegau addysg bellach

 

Iestyn Davies – Prif Weithredwr, ColegauCymru

Mark Jones – Pennaeth Coleg Gŵyr

Sharron Lusher - Cadeirydd, ColegauCymru

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Iestyn Davies, Prif Swyddog Gweithredol ColegauCymru, Mark Jones, Pennaeth Coleg Gŵyr a Sharron Lusher, Cadeirydd ColegauCymru, fel rhan o'r ymchwiliad i drosolwg Llywodraeth Cymru o gyllid a darpariaeth colegau addysg bellach.

3.2 Cytunodd Iestyn Davies i anfon y wybodaeth a ganlyn at y Pwyllgor:

·       Cyfran y cyllid sy'n cael ei wario ar y Gymraeg a'r Saesneg yn y sector addysg bellach;

·       Canran y cyllid addysg bellach sy'n cael ei wario ar farchnata.

 

(15.30 - 16.30)

4.

Trosolwg Llywodraeth Cymru o gyllid a darpariaeth colegau addysg bellach: Sesiwn dystiolaeth 2

PAC(5)-19-17 P2 – Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru (20 Mawrth 2017)

PAC(5)-19-17 P3 – Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru (8 Mehefin 2017)

 

Huw Morris - Cyfarwyddwr Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes, Llywodraeth Cymru

Geoff Hicks - Pennaeth Cyllid Ôl-16, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Huw Morris, Cyfarwyddwr Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes Llywodraeth Cymru a Geoff Hicks, Pennaeth Cyllid Ôl-16 Llywodraeth Cymru, fel rhan o'r ymchwiliad i drosolwg Llywodraeth Cymru o gyllid a darpariaeth colegau addysg bellach.

4.2 Cytunodd Huw Morris i anfon y wybodaeth a ganlyn at y Pwyllgor:

·       Cyfran y gyllideb sy'n cael ei wario ar y Gymraeg a'r Saesneg yn y sector addysg bellach; 

·       Esboniad manwl o'r effaith ar gyllid Ysgolion yr 21ain ganrif o fis Mawrth 2019 ymlaen yn sgil y broses o adael yr UE;

·       Manylion am sut y mae dysgwyr o'r gymuned Teithwyr yn cael eu cefnogi yn y sector addysg bellach;

·       Anfon y dyraniad o ran cyllid cyfalaf o'r gyllideb ddrafft, os yw'n gallu.

 

(16.30)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitem 6

 

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(16.30 - 17.00)

6.

Trosolwg Llywodraeth Cymru o gyllid a darpariaeth colegau addysg bellach: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law, a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i amlinellu ei sylwadau.  Anfonir copi o'r llythyr ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a Phwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.