Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Amseriad disgwyliedig: Lleoliad Allanol
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o'r cyfarfod (PDF 486KB) Gweld fel HTML
(297KB) |
||
(14.15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd Aelodau'r Pwyllgor i'r cyfarfod, a gynhaliwyd yng Ngholeg Caerdydd
a'r Fro. Rhoddodd y Cadeirydd ddiolch i staff y coleg am eu cymorth wrth
hwyluso'r cyfarfod. 1.2 Croesawodd y
Cadeirydd Vikki Howells AC i'r Pwyllgor. 1.3 Ni chafwyd
ymddiheuriadau. 1.4 Datganodd Neil
McEvoy AC fuddiant gan ei fod wedi cael ei gyflogi yn y sector addysg bellach. |
|
(14.15 - 14.20) |
Papur(au) i'w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Nodwyd y papurau. |
|
(14.20 - 15.20) |
Trosolwg Llywodraeth Cymru o gyllid a darpariaeth colegau addysg bellach: Sesiwn dystiolaeth 1 Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-19-17 P1 – Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Trosolwg
Llywodraeth Cymru o gyllid a darpariaeth colegau addysg bellach Iestyn Davies – Prif Weithredwr, ColegauCymru Mark Jones – Pennaeth Coleg Gŵyr Sharron Lusher - Cadeirydd, ColegauCymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Iestyn Davies, Prif Swyddog
Gweithredol ColegauCymru, Mark Jones, Pennaeth Coleg Gŵyr a Sharron
Lusher, Cadeirydd ColegauCymru, fel rhan o'r ymchwiliad i drosolwg Llywodraeth
Cymru o gyllid a darpariaeth colegau addysg bellach. 3.2 Cytunodd Iestyn Davies i anfon y wybodaeth a ganlyn at y Pwyllgor: · Cyfran y cyllid
sy'n cael ei wario ar y Gymraeg a'r Saesneg yn y sector addysg bellach; · Canran y
cyllid addysg bellach sy'n cael ei wario ar farchnata. |
|
(15.30 - 16.30) |
Trosolwg Llywodraeth Cymru o gyllid a darpariaeth colegau addysg bellach: Sesiwn dystiolaeth 2 PAC(5)-19-17 P2 – Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd
Cyffredinol Cymru (20 Mawrth 2017) PAC(5)-19-17 P3 – Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd
Cyffredinol Cymru (8 Mehefin 2017) Huw Morris - Cyfarwyddwr Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes,
Llywodraeth Cymru Geoff Hicks - Pennaeth Cyllid Ôl-16, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Huw Morris,
Cyfarwyddwr Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes Llywodraeth Cymru a Geoff
Hicks, Pennaeth Cyllid Ôl-16 Llywodraeth Cymru, fel rhan o'r ymchwiliad i
drosolwg Llywodraeth Cymru o gyllid a darpariaeth colegau addysg bellach. 4.2 Cytunodd Huw Morris i anfon y wybodaeth a ganlyn at y Pwyllgor: · Cyfran y
gyllideb sy'n cael ei wario ar y Gymraeg a'r Saesneg yn y sector addysg
bellach; · Esboniad manwl
o'r effaith ar gyllid Ysgolion yr 21ain ganrif o fis Mawrth 2019
ymlaen yn sgil y broses o adael yr UE; · Manylion am
sut y mae dysgwyr o'r gymuned Teithwyr yn cael eu cefnogi yn y sector addysg
bellach; · Anfon y
dyraniad o ran cyllid cyfalaf o'r gyllideb ddrafft, os yw'n gallu. |
|
(16.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Eitem 6 Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(16.30 - 17.00) |
Trosolwg Llywodraeth Cymru o gyllid a darpariaeth colegau addysg bellach: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law, a chytunodd i
ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i amlinellu ei sylwadau. Anfonir copi o'r llythyr ar y Pwyllgor Plant,
Pobl Ifanc ac Addysg a Phwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau. |