Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod PDF (186KB) Gweld fel HTML (53KB)

 

(14.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2       Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

(14.00 - 14.10)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papurau.

 

2.1

Maes Awyr Caerdydd: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (30 Mawrth 2017)

Dogfennau ategol:

2.2

Consortia Addysg Rhanbarthol: Cyflwyniad ysgrifenedig gan y Consortia Rhanbarthol (Mawrth 2017)

Dogfennau ategol:

2.3

Rheoli Meddyginiaethau: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (28 Ebrill 2017)

Dogfennau ategol:

2.4

Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Reoli Grantiau 2016: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (28 Ebrill 2017)

Dogfennau ategol:

(14.10 - 14.30)

3.

Llywodraeth Cymru yn ariannu Kancoat Ltd: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor

PAC(5)-13-17 Papur 1 - Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor

PAC(5)-13-17 Papur 2 – Llythyr gan Swyddfa Archwilio Cymru yn rhoi sylwadau ar ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd yr Aelodau ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion yn eu hadroddiad. 

3.2 Cytunodd yr Aelodau y dylai'r Cadeirydd ofyn am sicrwydd pellach gan Lywodraeth Cymru ynghylch ymdrin â gwrthdaro canfyddedig a all ddigwydd y tu hwnt i ffin wirioneddol etholaeth Gweinidog yn y dyfodol.

 

(14.30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitemau 5, 6 a 7

 

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(14.30 - 15.30)

5.

Ymchwiliad i drefn reoleiddio Cymdeithasau Tai: Sesiwn Dystiolaeth 13

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

John Howells – Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru

Ian Williams - Dirprwy Gyfarwyddwr, Cartrefi a Lleoedd, Llywodraeth Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Bu'r Aelodau yn holi John Howells, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, ac Ian Williams,  Dirprwy Gyfarwyddwr Cartrefi a Lleoedd, o Lywodraeth Cymru fel rhan o'i ymchwiliad i drefn reoleiddio Cymdeithasau Tai Cymru.

 

(15.40 - 16.10)

6.

Ymchwiliad i drefn reoleiddio Cymdeithasau Tai: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

6.2 Cytunodd Aelodau y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn fersiwn o adroddiad Ymchwiliad Statudol ar Gymdeithas Tai Tai Cantref wedi'i hailolygu'n synhwyrol i guddio rhai enwau neu eiriau allweddol. Os nad yw'r ymateb yn gadarnhaol, cytunwyd y dylid defnyddio pwerau'r Cynulliad (o dan Adran 37 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006) i gael copi o'r ddogfen.

 

(16.10 - 17.00)

7.

Cylchffordd Cymru: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-13-17 Papur 3 – Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-13-17 Papur 4 –  Datganiad Llywodraeth Cymru ar adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Cynhaliodd Archwilydd Cyffredinol Cymru sesiwn friffio i'r Aelodau ar ei adroddiad diweddar ar gyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru.

7.2 Mae Aelodau wedi nodi'n flaenorol eu bod yn dymuno craffu ar Lywodraeth Cymru ynghylch y mater hwn. Mae cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru wedi'u gwahodd i gyfarfod y Pwyllgor ar 12 Mehefin.