Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 252KB) Gweld fel HTML (177KB)

 

(14.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.

1.2       Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

(14.00 - 14.05)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

Adolygiad o Lywodraethiant Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (20 Mawrth 2017)

Dogfennau ategol:

(14.05 - 15.15)

3.

Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Reoli Grantiau 2015-16

Briff Ymchwil

PAC(5)-12-17 Papur 1 – Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Reoli Grantiau 2015-16

 

Shan Morgan - Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru

David Richards - Cyfarwyddwr Llywodraethu, Llywodraeth Cymru

Gawain Evans - Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Craffodd y Pwyllgor ar Shan Morgan, yr Ysgrifennydd Parhaol; David Richards, Cyfarwyddwr Llywodraethu; a Gawain Evans, Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru ynghylch Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Reoli Grantiau 2015-16.

3.2 Cytunodd yr Ysgrifennydd Parhaol y byddai'n:

·       Ystyried a yw'r trothwy o £25k ar gyfer tendro a chaffael yn dal i fod yn drothwy priodol, ac ysgrifennu at y Pwyllgor gyda'i chasgliadau;

·       Darparu nodyn ar y safle de minimus o ran graddfa'r cysylltiadau sydd wedi'u gosod i'w tendro, a nodi a yw Llywodraeth Cymru yn ystyried bod y safle hon yn cynnig gwerth am arian;

·       Darparu nodyn gyda'r gwerth a'r modd y mae'r grantiau a ddyfarnwyd wedi cael eu rhannu ar gyfer iechyd, awdurdodau lleol a'r trydydd sector yn 2015-16;

·       Darparu dadansoddiad, gan gynnwys unrhyw arbedion, a wnaed o ran costau gweinyddol yn y Ganolfan Ragoriaeth yn 2015-16; a

·       Darparu'r telerau ar gyfer diswyddo i staff a effeithir o ganlyniad i'r ffaith bod Cymunedau yn Gyntaf yn dod i ben yn raddol.

 

 

(15.15)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitemau 5, 6, 7 & 8

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.25 - 15.45)

5.

Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Reoli Grantiau 2015-16: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

5.2 Cytunodd y Pwyllgor ar gynnig Llywodraeth Cymru i alinio adroddiadau yn y dyfodol gyda chyhoeddi'r adroddiad a'r cyfrifon blynyddol.

 

(15.45 - 16.00)

6.

Trosolwg Llywodraeth Cymru o gyllid a darpariaeth colegau addysg bellach: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-12-17 Papur 2 – Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-12-17 Papur 3 - Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Derbyniodd y Pwyllgor friff ar adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghylch ei adroddiad diweddaraf ar drosolwg Llywodraeth Cymru o gyllid a darpariaeth colegau addysg bellach.

6.2 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad byr i'r mater hwn.

 

(16.400- 16.30)

7.

Diwygio Llywodraeth Leol: Cadernid ac adnewyddiad: Ystyried ymateb y Pwyllgor i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru

PAC(5)-12-17 Papur 4 – Drafft llythyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd yr Aelodau y llythyr drafft, a chytunwyd arno, yn amodol ar rai mân newidiadau.

 

(16.30 - 17.00)

8.

Ymchwiliad i drefn reoleiddio Cymdeithasau Tai: Trafod y materion allweddol

PAC(5)-12-17 Papur 5 – Prif faterion

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd yr Aelodau y papur ar y materion allweddol.